Cod Ymarfer

 

Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol

 

 

Mae’r cod ymarfer hwn yn ymwneud â Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018, fel y’u diwygiwyd

 

 

                                    

Mai 2019                

 

 

 

 

                                                                                            

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhaglith

 

  1. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018[1] (“y Rheoliadau”) a’r cod ymarfer hwn yn disodli’r gofynion a osodwyd ar ddarparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol cysylltiedig.

 

  1. Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”), sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi codau ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid i awdurdodau lleol, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gwasanaethau maethu, weithredu’n unol â’r gofynion yn y Rheoliadau a rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a nodir yn y cod hwn.

 

  1. Nid yw Adran 147 o’r Ddeddf (gwyro oddi wrth y gofynion mewn codau) yn gymwys i unrhyw ofynion yn y cod hwn, felly rhaid i’r rhain gael eu dilyn yn llawn.

  2. Mae’r canllawiau yn y cod hwn yn nodi sut y gall darparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol a rheolwyr mewn awdurdodau lleol gydymffurfio â’r gofynion a osodwyd gan y Rheoliadau. Mae’r gofynion hyn wedi’u cynnwys yn Rhannau 2 i 11 o’r Rheoliadau. Fodd bynnag, darparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am benderfynu sut y bydd y gofynion yn cael eu bodloni, gan ystyried anghenion y plant sy’n defnyddio’r gwasanaeth a’r datganiad o ddiben y gwasanaeth. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn defnyddio’r cod ymarfer hwn i lywio penderfyniadau ynglŷn ag i ba raddau y mae darparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yn bodloni’r gofynion a nodwyd yn y Rheoliadau, a hefyd fel sail ar gyfer eu harolygiadau o wasanaethau maethu awdurdodau lleol.

  3. Mae’r Rheoliadau yn ategu dyletswyddau awdurdod lleol mewn perthynas â lleoli plant sy’n derbyn gofal o dan Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 a Chod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n cael eu Lletya)

  4. Daw’r Rheoliadau i rym ar 29 Ebrill 2019 a daw’r cod ymarfer hwn i rym ym mis Mai 2019.

 

 

Strwythur y cod ymarfer

 

  1. Mae'r cod ymarfer hwn yn nodi'r canlynol:

 

·         Crynodeb o fwriad pob Rhan o'r Rheoliadau

 

Mae Rhannau 2 i 10 o'r Rheoliadau, a wnaed o dan adrannau 94A ac 87 o’r Ddeddf, yn nodi'r hyn sy'n ofynnol gan ddarparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol o ran safon y gwasanaeth y mae'n rhaid ei ddarparu. Maent yn amlygu pwysigrwydd llesiant plant sy’n derbyn gofal a chymorth. Maent hefyd yn gorfodi gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol, yn gysylltiedig â gweithredu'r gwasanaeth. Mae Rhan 11 yn nodi’r dyletswyddau a osodir ar reolwr gwasanaethau maethu’r awdurdod lleol.     

 

·         Testun pob rheoliad

 

Mae'n bwysig fod darparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yn cyfeirio at destun pob rheoliad fel y ffynhonnell wybodaeth gyntaf am y gofynion a sut mae eu bodloni. Mae'r cod ymarfer hwn yn darparu esboniad pellach ynghylch sut i fodloni elfennau unigol pob rheoliad lle y gall fod yn ddefnyddiol cael rhagor o eglurhad neu ddiffiniad, ond nid yw'n cymryd lle testun y ddeddfwriaeth ei hun. Lle bydd testun y rheoliad yn hunanesboniadol, ni roddir rhagor o ganllawiau.

 

Mae testun rheoliadau o fewn y cod hwn yn cynnwys y diwygiadau a wnaed gan Reoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2019. Mae’r rhain yn cynnwys diwygiadau i reoliadau 7(1), 26(1) a 29(2)(e).

 

·         Canllawiau am ofynion elfennau unigol o'r rheoliad

 

Ni ddylid ystyried bod y canllawiau am elfennau unigol pob rheoliad yn cynnwys pob sefyllfa oherwydd efallai y bydd modd i ddarparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol ddangos eu bod yn bodloni pob elfen o'r rheoliad mewn ffyrdd eraill.

 

 

Eiriolaeth

 

  1. Rhaid i blentyn deimlo bod ei lais yn cael ei glywed drwy gydol y broses faethu. Caiff plentyn wahodd rhywun arall o’i ddewis i’w helpu i gymryd rhan yn llawn ac i fynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau. Gall y cymorth hwn gael ei ddarparu gan ei ffrindiau, ei deulu neu ei rwydwaith gefnogi ehangach.

 

  1. Mae’r Cod Ymarfer penodedig ar eiriolaeth o dan Ran 10 o Ddeddf 2014 yn nodi hawl plentyn sy’n derbyn gofal i gael mynediad at wasanaethau eirioli rheoleiddiedig. Mae’r cod hefyd yn nodi’r swyddogaethau pan fo’n rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriaeth â’r plentyn, ddod i benderfyniad ynghylch sut y gallai eiriolaeth helpu i bennu a chyflawni ei ganlyniadau personol; ynghyd â’r amgylchiadau pan fo’n rhaid i awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol. Rhaid i weithwyr proffesiynol sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â’r angen am eiriolaeth yn rhan annatod o’r dyletswyddau perthnasol o dan y cod hwn.

 

 

 


Rhestr o'r prif dermau a ddefnyddir yn y cod hwn

Term       

Ystyr

Arolygiaeth Gofal Cymru

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru wrth ymarfer eu swyddogaethau rheoleiddiol.

Awdurdod Ardal

Yr awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr ar gyfer yr ardal lle mae’r plentyn wedi’i leoli neu y bydd yn cael ei leoli, os yw hwn yn wahanol i’r awdurdod lleoli.

Awdurdod Lleoli

O ran plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol hwnnw.

Canlyniadau personol

·         O ran y plentyn, mae hyn yn golygu’r canlyniadau y mae’r plentyn yn dymuno’u cyflawni.

·         O ran y rhiant maeth, mae hyn yn golygu’r canlyniadau y maent yn dymuno’u cyflawni ar gyfer y plentyn.

Cynllun gofal a chymorth

Cynllun a roddir ar waith gan yr awdurdod lleol o dan adran 83 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya.

Cynllun llwybr

Cynllun sy'n amlinellu'r camau sydd eu hangen i gefnogi person ifanc i bontio'n llwyddiannus i fyd oedolyn a bod yn fwy annibynnol. Caiff y cynllun ei lunio pan fydd y plentyn sy'n derbyn gofal yn troi'n 16 oed.  Os fydd y plentyn yn parhau i dderbyn gofal, caiff cynllun gofal a chymorth y plentyn ei gynnwys o fewn ei gynllun llwybr. 

Cynrychiolydd

Unrhyw un sydd â'r awdurdod cyfreithiol i weithredu ar ran y plentyn.

Cytundeb gofal maethu

Y cytundeb ysgrifenedig sy’n ymdrin â’r materion a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Paneli Maethu.

Darparwr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol

Yr awdurdod lleol sy’n darparu’r gwasanaeth maethu. Cyfeirir ato yn y cod hwn fel ‘darparwr/darparwyr awdurdod lleol’ neu ‘darparwr/darparwyr’.

Datganiad o ddiben

Y datganiad o ddiben ar gyfer y man y darperir y gwasanaeth ohono.

Y Ddeddf

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Gofal a chymorth

Y gofal a'r cymorth a ddarperir i'r plentyn mewn lleoliad maeth gan y rhiant maeth.

Y gwasanaeth

Gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol.

Lleoli

Lleoli plentyn gyda rhiant maeth o dan adran 81 o Ddeddf 2014

Y Rheoliadau

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018, fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2019.

Y Rheoliadau Paneli Maethu

Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018

Staff

·           Pobl a gyflogir gan yr awdurdod lleol i weithio yn y gwasanaeth fel gweithiwr cyflogedig  (yn unol â'r ystyr yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996).

·           Pobl sy’n gweithio yng ngwasanaeth maethu’r awdurdod lleol yn unol â'r ystyr yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996).

·           Pobl a gymerir ymlaen gan ddarparwr gwasanaeth yr awdurdod lleol o dan gontract ar gyfer gwasanaethau.

·           Pobl sy’n gwirfoddoli gyda gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol.

·           Nid yw hyn yn cynnwys y rhieni maeth.

 

 


 

Dolenni Defnyddiol

 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

http://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/contents

 

Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/1339/pdfs/wsi_20181339_mi.pdf

 

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2019

 

           

Llywodraeth Cymru: Datganiad Llesiant ar gyfer Pobl sydd angen Gofal a Chymorth a Gofalwyr sydd angen Cymorth

https://gov.wales/docs/dhss/publications/160831well-being-statementcy.pdf

 

Arolygiaeth Gofal Cymru                    

http://careinspectorate.wales/?skip=1&lang=cy

 

Arolygiaeth Gofal Cymru: Llunio Datganiad o Ddiben

https://arolygiaethgofal.cymru/darparu-gwasanaeth-gofal/gwasanaethau-sydd-eisoes-wedi-eu-cofrestru/ailgofrestru

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

https://gofalcymdeithasol.cymru/

 

Gofal Cymdeithasol Cymru: Hyb Gwybodaeth a Dysgu

https://gofalcymdeithasol.cymru/hyb/hafan

 

 

 


 


Pennod 1: Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau (Rhannau 2 i 10 o'r Rheoliadau)

 

1.1  Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr awdurdodau lleol (Rhan 2 o'r Rheoliadau)

 

Bwriad y gofynion cyffredinol yn Rhan 2 o'r Rheoliadau yw sicrhau bod darparwyr yn rhoi trefniadau llywodraethu ar waith i helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu'n hwylus ac i sicrhau bod sylfaen gadarn ar gyfer darparu cymorth o ansawdd da i’r plant sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac i alluogi’r plant i gyflawni eu canlyniadau personol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

 

·                gosod bwriad a chyfeiriad trefniadaethol clir drwy restru yn y datganiad o ddiben y gwasanaethau a ddarperir a'r camau y bydd y darparwr yn eu cymryd i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu cyflawni i’r safonau gofynnol

·                rhoi ar waith y polisïau a'r gweithdrefnau creiddiol i helpu rheolwyr a staff i gyflawni nodau'r gwasanaeth a helpu plant i gyflawni eu canlyniadau personol

·                creu strwythurau rheoli cadarn i oruchwylio a monitro'r gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu'n ddiogel ac yn effeithiol i'r plant sy’n cael gofal a chymorth

·                sefydlu trefniadau clir ar gyfer cylch parhaus o adolygu a sicrhau ansawdd er mwyn rhoi sicrwydd bod y gwasanaeth yn gweithredu'n unol â’r gofynion cyfreithiol ac â’i ddatganiad o ddiben, a'i fod yn helpu plant a rhieni maeth yn briodol (bydd yr wybodaeth a geir drwy fonitro'n cael ei defnyddio ar gyfer datblygu a gwella'r gwasanaeth yn barhaus)

·                hyrwyddo diwylliant o fod yn agored, yn ddidwyll ac yn onest ar bob lefel.


 

 

Rheoliad 3

 

Cod  

Gofynion mewn perthynas â darparu gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol

 

3.  Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

 

 

 

 

 

 

 

·         Mae gan ddarparwyr drefniadau clir i oruchwylio a llywodraethu'r gwasanaeth er mwyn sefydlu, datblygu a gwreiddio diwylliant sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac sy'n bodloni gofynion y Rheoliadau.

 

·         Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol:

 

o   polisïau a gweithdrefnau i gyflawni nodau'r datganiad o ddiben ac i roi plant yng nghanol y gwasanaeth;

o   systemau ar gyfer monitro ac adolygu sy'n cefnogi arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n galluogi plant i gyflawni eu canlyniadau personol;

o   prosesau i sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu mewn ffordd gyson a dibynadwy;

o   trefniadau staffio diogel, wedi’u hategu gan ddatblygiad proffesiynol, i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plant ac i gefnogi rhieni maeth;

o   systemau ansawdd ac archwilio i adolygu cynnydd ac i lywio'r ffordd y datblygir gwasanaethau;

o   ymagwedd ragweithiol at gyfle cyfartal ac amrywiaeth;

o   safleoedd, cyfleusterau a chyfarpar addas a hygyrch.

 

 

 

 

 

 

 

 

Rheoliad 4

 

Cod  

Cynnwys y datganiad o ddiben

4.  Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol lunio datganiad o ddiben sy’n cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1.

 

 

 

 

 

 

·         Mae'r datganiad o ddiben yn hanfodol i'r gwasanaeth. Rhaid iddo:

 

o   ddisgrifio'n gywir y gwasanaeth a ddarperir;

o   dweud ymhle a sut darperir y gwasanaeth hwn;

o   nodi’r trefniadau i gefnogi sut caiff y gwasanaeth ei ddarparu.

 

·         Rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth sydd wedi’i nodi yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau.

 

·         Wrth baratoi datganiad o ddiben, mae’r darparwr yn rhoi sylw i unrhyw ganllawiau ynghylch datganiad o ddiben a ddarparwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

 

 

Rheoliad 5

 

Cod  

 

Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben

5.—(1) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.

(2) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol—

(a)   cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a

(b)   pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.

(3) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (4) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.

(4) Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) yw—

(a)   Gweinidogion Cymru,

(b)   unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr awdurdod lleol, oni bai na fyddai’n briodol gwneud hynny o ystyried oedran y plentyn a’i ddealltwriaeth,

(c)   rhieni unrhyw blentyn o’r fath,

(d)   rhieni maeth a darpar rieni maeth,

(e)   personau sy’n gweithio at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol.

(5) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant plentyn.

·         Bydd darparwyr yn adolygu ac yn diweddaru’r datganiad o ddiben bob blwyddyn, o leiaf, neu'n gynt pan fydd newidiadau’n cael eu gwneud i’r gwasanaethau a ddarperir.

 

·         Os bwriedir newid y gwasanaethau a ddarperir, bydd y datganiad o ddiben yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r newid hwnnw. Bydd y darparwr yn rhoi gwybod i’r personau hynny a nodir yn rheoliad 5(4) 28 diwrnod cyn i'r newidiadau gael eu gwneud. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys newidiadau i’r trefniadau neu’r lefelau staffio arferol fel sydd wedi’u nodi yn y datganiad o ddiben sy’n bodoli’n barod.

 

·         Os cynigir newid i’r datganiad o ddiben, bydd y darparwr yn darparu i Arolygiaeth Gofal Cymru unrhyw wybodaeth ychwanegol y gallai fod ei hangen arni i fod yn fodlon bod yr awdurdod lleol yn gallu darparu’r gwasanaethau a gynigir.

 

·         Os caiff y datganiad o ddiben ei ddiweddaru, cedwir cofnod o'r fersiwn newydd a'r dyddiad diwygio.

 

·         Bydd copi o'r datganiad o ddiben ar gael yn hwylus i'r rhai a restrir yn rheoliadau 5(4) a (5).

 

 

 

Rheoliad 6

 

Cod  

 

Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella

6.—(1) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(6) Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—

(a)   unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr awdurdod lleol,

(b)   rhieni unrhyw blentyn o’r fath, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,

(c)   rhieni maeth,

(d)   personau sy’n gweithio at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol, ac

(e)   unrhyw awdurdod ardal,

ar ansawdd y gwasanaeth.

(7) Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

·         Bydd gan ddarparwyr systemau a phrosesau i fonitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys nodi:

 

o   pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod hyn yn cael ei wneud;

o   sut y bydd hyn yn cael ei wneud;

o   pa mor aml y mae hyn yn digwydd;

o   sut y bydd y canlyniadau’n cael eu bwydo’n ôl i uwch-swyddogion ac aelodau etholedig yr awdurdod lleol ac yn cael eu hystyried ganddynt.

 

·         Bydd canlyniad unrhyw adolygiad yn cael ei ddadansoddi a'i adolygu gan bobl sydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd priodol i ddeall ei arwyddocâd ac i gymryd camau i sicrhau bod pethau'n gwella. Bydd darparwyr yn ceisio cyngor proffesiynol/arbenigol yn ôl yr angen ac yn brydlon i helpu i sicrhau gwelliannau.

 

·         Bydd darparwyr yn gallu dangos sut y maent:

 

o    wedi dadansoddi'r wybodaeth a gasglwyd ac ymateb iddi;

o    wedi defnyddio'r wybodaeth i wella pethau.

 

·         Bydd darparwyr yn monitro'r cynnydd o'i gymharu â chynlluniau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau ac yn cymryd camau priodol ar unwaith oni lwyddir i sicrhau'r cynnydd disgwyliedig.

 

·         Bydd y systemau a'r prosesau'n cael eu hadolygu'n barhaus i sicrhau eu bod yn galluogi'r darparwr i weld ymhle y mae neu y gallai rhywbeth amharu ar ansawdd gwasanaethau ac i alluogi ymateb prydlon priodol.

 

·         Fel rhan o'r broses adolygu ansawdd, bydd darparwyr:

 

o    yn annog adborth;

o    yn ceisio barn y plant perthnasol a rhanddeiliaid eraill am ansawdd y gwasanaeth;

o    yn gallu dangos eu bod wedi gwneud hyn a natur yr adborth y maent wedi'i gael.

 

·         Bydd y dulliau a ddefnyddir i gysylltu â'r rhai a restrir yn rheoliad 6(2)  ac i gael eu barn yn briodol i’w hoed, lefel eu dealltwriaeth ac yn ystyried unrhyw gyflwr penodol a/neu anghenion cyfathrebu. Bydd cyfranogiad plant yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.

 

 

Rheoliad 7

 

Cod  

Gofyniad i benodi rheolwr awdurdod lleol

7.—(1)  Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol benodi swyddog i fod yn gyfrifol am reoli’r gwasanaeth.

(2) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i Weinidogion Cymru—

(a)   o enw’r person a benodir yn rheolwr,

(b)   o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith,

(c)   os bydd y person sydd wedi ei benodi’n rheolwr yn peidio â rheoli gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol.

 

 

 

 

·           Bydd darparwyr gwasanaeth yn penodi swyddog i reoli’r gwasanaeth maethu

 

·           Lle y bo’n briodol, caiff darparwyr gwasanaeth benodi’r un rheolwr i reoli mwy nag un gwasanaeth (er enghraifft, ar lefel ranbarthol).

 

·           Bydd darparwyr yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ddi-oed, fel sy'n ofynnol o dan y Rheoliad.

 

 

 

 


 

Rheoliad 8

 

Cod  

Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr

8.—(1)  Ni chaiff y darparwr awdurdod lleol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 29(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

 

 

·           Bydd gan ddarparwyr drefniadau addas i sicrhau bod y rheolwr yn addas ac yn alluog i redeg y gwasanaeth yn unol â'i ddatganiad o ddiben. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau:

 

o  bod gan y rheolwr y cymwysterau priodol;

o  bod y rheolwr wedi’i gofrestru â Gofal Cymdeithasol     Cymru os yw hynny’n ofynnol;

o   bod y rheolwr yn brofiadol o ran darparu gwasanaeth       maethu;

o  bod y broses o archwilio cefndir darpar reolwyr yn           cynnwys yr archwiliadau perthnasol sy’n ofynnol gan y      ddeddfwriaeth i sicrhau’r darparwr bod yr unigolyn yn        addas ac yn alluog i weithio gyda phlant.

 

 

Rheoliad 9

 

Cod  

 

Gofynion eraill mewn perthynas â’r rheolwr

9.—(1)  Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y person sydd wedi ei benodi’n rheolwr—

(a)   yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a

(b)   yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.

(2) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y rheolwr yn cydymffurfio â gofynion Rhan 11 (dyletswyddau rheolwyr awdurdodau lleol).

(3) Os bydd gan y darparwr awdurdod lleol reswm dros gredu nad yw’r rheolwr wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhan 11, rhaid i’r darparwr gymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad.

(4) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr sydd wedi ei benodi neu pan yw’r rheolwr yn absennol o’r gwasanaeth.

 

·           Bydd gan ddarparwyr drefniadau ar waith i gynnal trafodaethau ffurfiol a rheolaidd â'r rheolwr, ac i roi cymorth iddo.

 

·           Bydd darparwyr yn cefnogi’r rheolwr i ddilyn hyfforddiant sy'n ei alluogi i gyflawni ei rôl yn effeithiol a chyflawni nodau’r gwasanaeth fel y maent wedi’u nodi yn y datganiad o ddiben ac yn unol â'r canllawiau ymarfer a argymhellir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

 

·           Os na fydd rheolwr, neu os na fydd y rheolwr yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau am ba reswm bynnag (er enghraifft am ei fod yn absennol o’i swydd oherwydd salwch), bydd y darparwr yn sicrhau bod trefniadau priodol a chadarn ar waith i reoli’r gwasanaeth yn ystod unrhyw gyfnod pan na fydd rheolwr yn y swydd.

 

 

 

Rheoliad 10

 

Cod  

 

Gofyniad i ddarparuʼr gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau

10.—(1)  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y polisïau aʼr gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—

(a)   diogelu (gweler rheoliad 20),

(b)   defnyddio rheolaeth neu ataliaeth yn briodol (gweler rheoliad 21),

(c)   bwlio (gweler rheoliad 24),

(d)   absenoldeb (gweler rheoliad 25),

(e)   meddyginiaeth (gweler rheoliad 26 (mynediad i wasanaethau iechyd)),

(f)     cefnogi a datblygu staff (gweler rheoliad 30),

(g)   disgyblu staff (gweler rheoliad 32),

(h)   cwynion (gweler rheoliad 39),

(i)     chwythuʼr chwiban (gweler rheoliad 40),

(j)     cymorth ar gyfer rhieni maeth o ran sut i helpu plant i reoli eu harian (gweler rheoliad 45).

(2) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol hefyd gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle syʼn rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.

(3) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cynnwys y polisïau aʼr gweithdrefnau y maeʼn ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—

(a)  yn briodol i anghenion plant y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,

(b)  yn gyson âʼr datganiad o ddiben, ac

(c)   yn cael eu cadwʼn gyfredol.

(4) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau.

(5) Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle o dan baragraff (1)(a), (b), (c) ac (h) yn ystyried anghenion unrhyw blant eraill y gall y lleoliad sy’n cael ei wneud effeithio arnynt.

 

 

 

 

 

 

·         Bydd gan ddarparwyr y polisïau a'r gweithdrefnau ar waith fel sy'n ofynnol gan y Rheoliadau.

 

·         Bydd y polisïau a’r gweithdrefnau yn gymesur â'r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu yn unol â'r datganiad o ddiben. Lle bo'n berthnasol, bydd y polisïau a’r gweithdrefnau'n cymryd i ystyriaeth anghenion aelodau eraill o aelwyd y rhiant maeth.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'n adlewyrchu'r trefniadau ar gyfer gwyliau tymor byr i blant, lle darperir y rhain gan y darparwr.

 

·         Bydd y polisïau a’r gweithdrefnau:

 

o    yn cyd-fynd ag unrhyw ddeddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol cyfredol;

o    yn cynnig arweiniad i staff i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â'r datganiad o ddiben;

o    yn nodi’r gofynion i hysbysu plant, rhieni maeth a staff am sut y mae'r gwasanaeth maethu yn cael ei ddarparu.

 

·         Bydd y polisïau, y gweithdrefnau a'r arferion yn cael eu hadolygu a'u diweddaru yng ngoleuni newidiadau i arferion, deddfwriaeth sy'n newid ac argymhellion ynglŷn â'r arferion gorau.

 

·         Bydd y staff, y plant a'r rhieni maeth sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn cael y cyfle i ymwneud â datblygu polisïau a gweithdrefnau.

 

·         Os gwneir newidiadau i’r datganiad o ddiben, bydd y polisïau a'r gweithdrefnau'n cael eu hadolygu a'u diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod staff yn gallu cael gafael ar y polisïau a'r gweithdrefnau sy'n eu cefnogi yn eu rôl o sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r plant, a bod ganddynt wybodaeth amdanynt ac yn eu deall.

 

·         Bydd yr holl bolisïau a gweithdrefnau ar gael ar gais i'r plentyn, ei gynrychiolwyr, y rhieni maeth a, lle bo hynny’n briodol, yr awdurdod ardal perthnasol.

 

·         Bydd y polisïau a'r gweithdrefnau ar fformat hygyrch i’r plentyn, a darperir cymorth i helpu'r plentyn i’w deall.

 

·         Bydd y systemau ar gyfer monitro a gwella yn cynnwys rhai sy’n sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei redeg yn unol â'r polisïau a'r gweithdrefnau.

 

 

Rheoliad 11

 

Cod  

 

Dyletswydd gonestrwydd

11. Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol weithredu mewn ffordd agored a gonest gydag—

(a)  unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli ganddo,

(b)  rhieni unrhyw blentyn o’r fath,

(c)   rhieni maeth a darpar rieni maeth,

(d)  yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gydag awdurdod ardal, yr awdurdod ardal hwnnw.

 

 

 

 

·           Bydd gan ddarparwyr bolisïau a gweithdrefnau sy’n gefn i ddiwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw, a byddant yn sicrhau bod y staff i gyd yn ymwybodol ohonynt ac yn eu dilyn. Bydd y polisïau a’r gweithdrefnau yn dilyn ac yn ystyried canllawiau Gofal Cymdeithasol Cymru ar y ddyletswydd gonestrwydd broffesiynol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol sydd wedi’u cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.

 

·           Bydd darparwyr yn hybu diwylliant o onestrwydd sy’n cynnwys:

 

o    bod yn agored ac yn onest wrth ymgysylltu â'r rhai a restrir yn rheoliad 11;

o    darparu gwybodaeth am ddigwyddiadau a chanlyniad unrhyw ymchwiliadau sydd wedi’u cynnal;

o    cynnig ymddiheuriad am yr hyn sydd wedi digwydd, lle y bo’n briodol gwneud hynny.

 

·           Bydd darparwyr yn cymryd camau i atal bwlio, erlid a/neu aflonyddu ac yn mynd i'r afael â'r rhain yn briodol, gyda golwg ar y ddyletswydd gonestrwydd, ac i ymchwilio i unrhyw ddigwyddiad lle mae’n bosibl bod aelod o'r bwrdd, rheolwr neu aelod o'r staff wedi rhwystro rhywun arall wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd gonestrwydd.

 

·           Bydd gan ddarparwyr system i sylwi ar achosion posibl o dorri'r ddyletswydd gonestrwydd gan staff sydd wedi'u cofrestru'n broffesiynol (fel y bo'n briodol), ac i ymdrin â hynny, gan gynnwys rhwystro rhywun arall wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd gonestrwydd broffesiynol. Bydd camau i fynd i’r afael â thorri amodau o’r fath yn cynnwys, lle bo hynny’n briodol, cyfeirio rhywun at y rheoleiddiwr proffesiynol neu at gorff perthnasol arall.

 

 


 

1.2 Gofynion ar ddarparwyr awdurdodau lleol o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu gofal a chymorth (Rhan 3 o'r Rheoliadau)

 

Bwriad Rhan 3 o'r Rheoliadau yw sicrhau bod unigolion yn cael gwybodaeth am y gwasanaeth i'w galluogi i gael:

 

·           dealltwriaeth glir o egwyddorion y gwasanaeth

·           amlinelliad o’r gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael

·           dealltwriaeth o'r ffordd y bydd gwasanaethau yn cael eu darparu

 

Dylai hyn alluogi plant, rhieni maeth a darpar rieni maeth, a (lle bo hynny’n briodol) awdurdodau ardal i ddeall yn dda sut mae'r gwasanaeth yn gweithio o ran darparu gofal a chymorth. Bydd y canllawiau'n rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i blant, rhieni maeth ac awdurdodau ardal ynglŷn â sut i leisio pryderon a chwyno wrth ddarparwyr os na fyddant yn fodlon â’r gwasanaeth, ac yn rhoi gwybod sut i uwchgyfeirio'r pryderon hyn os na fyddant yn fodlon â’r ymateb.

 

 

Rheoliad 12

 

Cod  

 

Gwybodaeth am y gwasanaeth etc.

12.—(1)  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.

(2) Rhaid iʼr canllaw—

(a) cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn aʼi  

ddiweddaru fel y bo angen,

(b) bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat syʼn briodol i blant (o bob oedran a dealltwriaeth) ac oedolion,

(c) cael ei roi i—

                  (i)   unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr,

                 (ii)   unrhyw rieni maeth a darpar rieni maeth,

                (iii)   yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gydag awdurdod ardal, yr awdurdod hwnnw, a

(d) cael ei roi ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddaiʼn anghyson â llesiant y plentyn.

(3) Rhaid iʼr canllaw gynnwys y canlynol—

(a) crynodeb o’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid i’r  darparwr awdurdod lleol eu rhoi yn eu lle o dan reoliad 10(1)(a), (b), (c), (d), (e), (h) a (j),

(b) gwybodaeth am sut i wneud cwyn,

(c)   gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli annibynnol i blant syʼn derbyn gofal gan awdurdod lleol,

(d) gwybodaeth am rôl a manylion cyswllt Comisiynydd Plant Cymru([2]).

(4) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod plant yn cael unrhyw gymorth syʼn angenrheidiol iʼw galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.

 

 

 

 

 

 

·         Bydd llawlyfr ysgrifenedig ar gael i'r rhai a restrir yn rheoliad 12(2)(c) sy'n rhoi gwybodaeth am y gwasanaeth.

 

·         Bydd y llawlyfr mewn iaith syml ac mewn fformat sy'n adlewyrchu anghenion, oedran a lefel ddealltwriaeth y sawl y bwriedir y gwasanaeth ar ei gyfer. Bydd y llawlyfr ar gael mewn fformatau a thrwy gyfryngau sydd ar gael yn hwylus ac yn briodol i'r gynulleidfa. Er enghraifft, iaith briodol ac iaith o ddewis yr unigolyn, print mawr, sain, cymhorthion cyfrifiadurol a gweledol. Os bydd gofyn, defnyddir y dull cyfathrebu a ffefrir gan y plentyn neu’r rhiant maeth i esbonio’r llawlyfr.

 

·         Os bydd gofyn, rhoddir cymorth i blant a rhieni maeth i ddeall cynnwys y llawlyfr a'r hyn y mae'n ei olygu iddynt hwy.

 

·         Bydd y llawlyfr yn rhestru'r meysydd sy'n ofynnol o dan Reoliad 12(3) a bydd hefyd yn cynnwys y canlynol:

 

o    trefniadau ar gyfer cyflwyno'r plentyn i'r rhieni maeth a’u haelwyd;

o   ethos, diwylliant a blaenoriaethau'r gwasanaeth - gan gynnwys crynodeb o'r datganiad o ddiben;

o   rôl y rhieni maeth yn y broses arolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru;

o   sut i gael gafael ar yr adroddiad arolygu diweddaraf a luniwyd gan y rheoleiddiwr gwasanaethau;

o   y staff allweddol a fydd yn rhoi cymorth i'r plentyn a’r rhiant maeth;

o   sut i gysylltu â rheolwr gwasanaethau maethu'r awdurdod lleol;

o   y weithdrefn gwyno a sut y mae gwneud cwyn;

o   manylion cyswllt a rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru;

o   cymorth i’r plentyn i gael gafael ar asiantaethau neu wasanaethau eraill, e.e. gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol (meddyg teulu, deintydd, optometrydd, fferyllydd, ciropodydd, ymweliadau ysbyty, trafnidiaeth, gwasanaethau eirioli);

o   gwybodaeth am hawl plant sy’n derbyn gofal i gael gwasanaethau eirioli annibynnol a’r cymorth sydd ar gael i helpu’r plant i gael gafael ar wasanaethau ar fath;

o   gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i rieni maeth gan y darparwr;

o   y trefniadau i blant a rhieni maeth allu mynegi barn am y ffordd y mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg;

o   sut y gall plant gael gafael ar eu cofnodion eu hunain.

 


 

 

1.3 Gofynion ar ddarparwyr awdurdodau lleol o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i'w ddarparu (Rhan 4 o'r Rheoliadau)

 

Bwriad Rhan 4 o'r Rheoliadau yw sicrhau bod plant mewn lleoliadau maeth yn cael gofal a chymorth o ansawdd sy’n eu galluogi i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl o ran eu llesiant personol . Caiff y gwasanaeth ei gynllunio drwy ymgynghori â phlant a rhieni maeth a bydd yn ystyried dymuniadau a dyheadau personol y plentyn ac unrhyw risgiau ac anghenion arbenigol sy'n llywio ei anghenion o ran gofal a chymorth.

 

Mae hyn yn cynnwys:

 

·           darparu cymorth sy'n galluogi'r plentyn i gyflawni ei ganlyniadau personol

·           darparu staff sydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r medrusrwydd i ddiwallu anghenion llesiant y plentyn

·           sicrhau bod gan staff y sgiliau iaith a chyfathrebu priodol

·           cynllunio a defnyddio staff i ddarparu dilyniant o ran gofal

·           ymgynghori â'r asiantaethau a'r arbenigwyr perthnasol lle bydd gofyn, a cheisio cymorth ganddynt.

 

 

Rheoliad 13

 

Cod  

 

Safonau gofal a chymorth i blant

13.  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn rhoi gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy—

(a)  yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn, a

(b)  mewn ffordd syʼn cynnal, yn amddiffyn ac yn hybu diogelwch a llesiant y plentyn.

 

·         Bydd disgwyliadau’r darparwr o ran y safonau gofal a chymorth y mae rhaid i riant maeth eu rhoi i blant sy'n cael eu lleoli gyda hwy yn cael eu nodi'n glir yn y datganiad o ddiben.

 

·         Bydd polisïau a gweithdrefnau yn gefn i’r broses o gyflawni canlyniadau personol y plentyn.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod y gwasanaeth yn ymatebol ac yn rhagweithiol wrth nodi a lliniaru risgiau.

 

·         Bydd rhieni maeth yn cael gwybodaeth am anghenion y plentyn yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn / cynllun llwybr (ar gyfer pobl ifanc sy’n derbyn gofal dros 16 oed).

·         Cefnogir rhieni maeth i geisio cyngor meddygol a chymorth proffesiynol arall i blentyn (lle bo'n briodol) neu wneud atgyfeiriad at yr awdurdod lleoli lle bo angen mewn ffordd amserol.

 

·         Cefnogir rhieni maeth, trwy oruchwyliaeth a hyfforddiant, i sicrhau eu bod yn darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion gofal a chymorth y plentyn a sicrhau ei fod yn cyflawni ei ganlyniadau personol. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

 

o   darparu gofal priodol i unrhyw blentyn sydd wedi cael ei gam-drin;

o   sgiliau gofalu diogel;

o   adnabod arwyddion camdriniaeth;

o   hybu a chynnal hunan-barch plentyn;

o   cymorth ymddygiadol cadarnhaol;

o   cymorth cyntaf sylfaenol;

o   hybu iechyd.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod y cymorth y maent yn ei ddarparu'n galluogi'r rheini maeth i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd da i'r plant y maent yn eu maethu. Bydd hyn yn cynnwys gofal a chymorth mewn perthynas â'r canlynol yn achos y plentyn:

 

o   llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol;

o   anghenion diwylliannol, crefyddol, cymdeithasol neu ysbrydol;

o   anghenion o ran addysg, hyfforddiant a hamdden;

o   perthnasoedd personol a theuluol;

o   y gallu i reoli eu bywyd bob dydd;

o   datblygiad deallusol, emosiynol ac ymddygiadol;

o   hawliau a hawliadau, yn enwedig mewn perthynas â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn;

o   amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod.

 

·         Cefnogir rhieni maeth i alluogi'r plentyn i fod mor annibynnol ag sy'n ymarferol.

 

·         Cefnogir plant a rhieni maeth pan ddaw'r lleoliad i ben, a hynny pan fydd hyn wedi'i gynllunio neu mewn argyfwng.

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod plant yn cael cefnogaeth ar gyfer dod yn oedolion ac ar gyfer gadael gofal, yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rheoliad 14

 

Cod  

Gwybodaeth ar gyfer plant

14.—(1)  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan blant yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud a chymryd rhan mewn penderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.

(2) Rhaid iʼr wybodaeth a ddarperir fod ar gael mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat syʼn briodol i blant o bob oedran.

(3) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant yn cael unrhyw gymorth syʼn angenrheidiol iʼw galluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.

 

·         Bydd darparwyr yn cefnogi rhieni maeth i sicrhau bod plant yn gallu cymryd rhan mewn cynllunio ac adolygu gofal yn ystod eu lleoliad maeth a gwneud penderfyniadau am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod rhieni maeth yn cael yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen i ddarparu gofal a chymorth i'r plentyn o ddydd i ddydd yn unol â chynllun gofal a chymorth / cynllun llwybr a chanlyniadau personol y plentyn.

 

·         Bydd gan ddarparwyr drefniadau i alluogi plant i ddeall yr wybodaeth a ddarperir ar eu cyfer.

 

·         Bydd darparwyr yn rhoi trefniadau ar waith i alluogi plant i gael gafael ar wasanaethau eirioli neu grwpiau hunaneirioli perthnasol (os dymunant) ac i gefnogi eu hanghenion cyfathrebu i’w galluogi i wneud penderfyniadau am eu bywydau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rheoliad 15

 

Cod  

Cydymffurfedd âʼr cytundeb gofal maeth

15. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol fonitro cydymffurfedd y rhieni maeth â gofynion y cytundeb gofal maeth.

 

·       Bydd gan ddarparwyr gytundebau gofal maeth ar waith gyda rhieni maeth cymeradwy, yn unol ag Atodlen 3 i’r Rheoliadau Paneli Maethu.

 

·       Bydd gan ddarparwyr drefniadau effeithiol i fonitro ac adolygu'r rhwymedigaethau a osodir ar rieni maeth drwy’r cytundeb gofal maeth.

 

·       Bydd gan ddarparwyr drefniadau i sicrhau bod rhieni maeth yn cael cymorth i ddeall a chyflawni’r gofynion a osodir arnynt drwy’r cytundeb gofal maeth.

 

·       Bydd gan ddarparwyr drefniadau effeithiol i sicrhau bod rhieni maeth yn cymryd camau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r cytundeb gofal maeth os gwelir nad ydynt yn gwneud hynny.

 


 

 

Rheoliad 16

 

Cod  

 

Iaith a chyfathrebu

16.—(1)  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod anghenion iaith plant yn cael eu diwallu.

(2) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar syʼn angenrheidiol i blant i hwylusoʼr ffordd y maent yn cyfathrebu ag eraill.

 

 

·         Bydd gan ddarparwyr drefniadau i helpu rhieni maeth ag anghenion iaith y plentyn yn unol â'r datganiad o ddiben. Os bydd angen, bydd hyn yn cynnwys rhoi camau ar waith i sicrhau bod y plentyn yn gallu cyfathrebu'n ystyrlon â’i rieni maeth. Mae hyn yn cynnwys:

 

o   cyfathrebu â’r plentyn mewn iaith sy’n unol â’i angen a/neu ei ddewis;

o   mynediad, lle bo'n briodol, at ddulliau cyfathrebu ychwanegol fel y System Gyfathrebu Cyfnewid Lluniau (PECS), Triniaeth ac Addysg i Blant ac Awtistiaeth ac Anawsterau Cyfathrebu Cysylltiedig (TEACCH), Makaton, ac Iaith Arwyddion Prydain. 

 

·         Bydd darparwyr yn nodi anghenion cyfathrebu unigolyn wrth benderfynu a all y gwasanaeth maethu ddiwallu ei anghenion.

 

·         Gall plant ddeall staff pan fyddant yn cyfathrebu â hwy.

 

·         Bydd gan ddarparwyr drefniadau i sicrhau bod y cymhorthion a’r cyfarpar sydd eu hangen i gefnogi anghenion cyfathrebu’r plentyn ar gael, yn hygyrch, yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda a bod y rhieni maeth yn gwybod sut i’w defnyddio.

 

·         Bydd darparwyr yn gallu cynnig eu gwasanaethau yn Gymraeg i blant neu rieni maeth y mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt, neu’n byddant yn gweithio tuag allu gwneud hynny.

 


Rheoliad 17

 

Cod  

 

Parch a sensitifrwydd

17.—(1)   Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.

(2) Mae hyn yn cynnwys, ond nid ywʼn gyfyngedig i—

(a)  parchu preifatrwydd ac urddas y plentyn,

(b)   parchu hawliauʼr plentyn i gyfrinachedd,

(c)   hybu ymreolaeth ac annibyniaeth y plentyn, a

(d)   rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel yʼu diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1)) y plentyn.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod plant a rhieni maeth yn ymwybodol o’u hawliau a’u hawliadau o dan y gyfraith, ac o dan bolisau cydraddoldeb ac amrywiaeth y darparwr.

 

·           Bydd darparwyr yn cefnogi rhieni maeth i sicrhau bod plant:

 

o   yn cael gwrandawiad teg a bod pobl yn cyfathrebu â hwy mewn ffordd gwrtais a pharchus a bod eu hanghenion gofal a chymorth yn cael eu blaenoriaethu gan riant maeth;

o   yn cael eu trin gyda pharch ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

 

·         Os dymunant, bydd plant a rhieni maeth yn cael eu hannog i gyfrannu eu barn ynglŷn â’r ffordd y mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg.

 

 

 

 


 

 

Rheoliad 18

 

Cod  

Dyletswydd i hybu cyswllt

18. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn hybu cyswllt rhwng plentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy a rhieni, perthnasau a ffrindiauʼr plentyn, yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn ac unrhyw orchymyn llys syʼn ymwneud â chyswllt.

 

 

·         Cefnogir rhieni maeth i alluogi'r plentyn i gynnal a meithrin cysylltiadau a chyfeillgarwch teuluol yn unol â chynllun gofal a chymorth / cynllun llwybr y plentyn.

 

·         Lle bo angen, cefnogir rhieni maeth i ddelio ag unrhyw faterion cyswllt anodd a allai godi neu unrhyw ofynion teithio sydd eu hangen.

 

·         Cefnogir rhieni maeth i ddeall unrhyw gyfyngiadau at gyswllt er mwyn amddiffyn y plentyn rhag unrhyw risg i'w ddiogelwch neu ei lesiant.

 

 


 

1.4 Gofynion ar ddarparwyr awdurdodau lleol – diogelu (Rhan 5 o’r Rheoliadau)

 

Bwriad Rhan 5 o'r Rheoliadau yw sicrhau bod gan ddarparwyr gwasanaethau y systemau ar waith i ddiogelu plant agored i niwed y maent yn darparu gofal a chymorth iddynt.

 

Bydd hyn yn cynnwys trefniadau sydd:

 

·                yn cefnogi plant agored i niwed sy’n defnyddio’r gwasanaeth  

·                yn cefnogi ac yn sylfaen i wybodaeth y staff, eu dealltwriaeth a'u sgiliau o ran sylwi ar y peryglon a'r camau i'w cymryd pan amheuir neu pan welir cam-drin, esgeulustod neu driniaeth amhriodol 

·                yn sicrhau bod darparwyr yn cydweithio â phartneriaid perthnasol i atal a chymryd camau pan amheuir neu pan welir cam-drin, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.

 

 

Rheoliad 19

 

Cod  

 

Diogelu – gofynion cyffredinol

19. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant sydd wedi eu lleoli ganddo yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth(1), esgeulustod(2) a thriniaeth amhriodol.

 

 

 

 

 

 

·         Pan fydd lleoliad yn dechrau, rhoddir gwybodaeth i’r plentyn am ddiogelu, sut mae lleisio pryder, gan ddweud wrtho fod cymorth ar gael i'w alluogi i wneud hynny.

 

·         Gall staff a rhieni maeth gael gafael ar bolisïau a gweithdrefnau diogelu sydd wedi'u diweddaru.

 

·         Bydd staff a rhieni maeth yn cael hyfforddiant perthnasol i'w rôl, i’w galluogi i ddeall eu cyfrifoldeb i ddiogelu ac amddiffyn plant agored i niwed.

 

·         Bydd y staff yn cael eu hyfforddi'n gyson yn unol â'r argymhellion diogelu lleol.

 

·         Bydd y staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau unigol am leisio pryder er mwyn sicrhau diogelwch a llesiant plant.

·         Bydd darparwyr yn rhoi cymorth i staff sydd am leisio pryder ynghylch diogelu (chwythu’r chwiban).

 

·         Bydd darparwyr yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill i asesu a rheoli unrhyw risg i blant sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

 

·         Bydd cofnodion ynghylch atgyfeiriadau a chanlyniadau diogelu'n cael eu cadw er mwyn gallu goruchwylio diogelu o fewn y gwasanaeth maethu a chraffu arno. Rhaid i'r rheolwr oruchwylio'r gwaith o ddiogelu plant agored i niwed, a rhaid i hynny ddigwydd o fewn y strwythur llywodraethu, gyda threfniadau ar gyfer trosolwg ar lefel prif swyddog.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod canlyniadau sy’n codi wrth atgyfeirio unrhyw achos yn ymwneud â diogelwch yn cael ei gyfleu i’r plentyn mewn dull sy’n briodol i’w oed a lefel ei ddealltwriaeth, gan ystyried unrhyw gyflwr penodol a/neu anghenion cyfathrebu.

 

 


 

Rheoliad 20

 

Cod  

 

Polisïau a gweithdrefnau diogelu

20.—(1)   Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—

(a) ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a

(b) ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.

(2) Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau oʼr fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.

(3) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod ei bolisïau aʼi weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithreduʼn effeithiol.

(4) Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

(a)  gweithredu yn unol âʼi bolisïau aʼi weithdrefnau diogelu,

(b)   cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob plentyn y darperir gofal a chymorth ar ei gyfer,

(c)   gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill, a

(d)   cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.

 

·         Bydd polisi a gweithdrefnau diogelu cyfredol ar waith.

 

·         Bydd y polisïau a’r gweithdrefnau diogelu yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth gyfredol, y canllawiau cenedlaethol a’r gweithdrefnau diogelu lleol ar gyfer plant.

 

·         Bydd y polisi a'r gweithdrefnau diogelu yn cynnwys rolau unigol a chyfrifoldebau staff a phobl eraill sy'n gweithio yn y gwasanaeth, o ran nodi, derbyn a rhoi gwybod am honiadau o gam-drin, esgeulustod neu driniaeth amhriodol neu amheuaeth o gam-drin, esgeulustod neu driniaeth amhriodol. Bydd hyn yn cynnwys cyfarwyddiadau i'r staff am y camau i’w cymryd a'r mecanweithiau ar gyfer cyfeirio pobl at yr awdurdod lleoli ac at bartneriaid ac asiantaethau perthnasol eraill.

 

·         Bydd y polisi a’r gweithdrefnau diogelu'n cynnwys rôl a chyfrifoldebau rheini maeth mewn perthynas â honiadau neu ddatgeliadau, gan unrhyw blentyn yng nghartref y rhiant maeth, o gamdriniaeth neu driniaeth amhriodol o unrhyw blentyn yng nghartref y rhiant maeth. Bydd hyn yn cynnwys sut i roi gwybod am honiadau o'r fath neu eu datgelu i Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod plant  yn cael gwybod am eu hawl i gael gwasanaethau eirioli proffesiynol annibynnol.

 

 

 

 

Rheoliad 21

 

Cod  

 

Defnyddio rheolaeth ac ataliaeth yn briodol

21.—(1)    Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth.

(2) Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau wahardd gofal a chymorth rhag cael eu darparu mewn ffordd syʼn cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal plentyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—

(a)   yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir iʼr plentyn neu i bersonau eraill neu ddifrod difrifol tebygol i eiddo, a

(b)   yn ymateb cymesur i risg oʼr fath.

(3) Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i rieni maeth gael eu hyfforddi mewn unrhyw ddulliau rheoli neu atal sydd iʼw defnyddio.

(4) Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i rieni maeth—

(a)   gwneud cofnod o unrhyw ddigwyddiad pan ddefnyddir rheolaeth neu ataliaeth, a

(b)   hysbysu’r darparwr awdurdod lleol am unrhyw ddigwyddiad o’r fath o fewn 24 awr.

(5) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir gan rieni maeth yn cael ei chyflawni yn unol âʼr polisïau aʼr gweithdrefnau hyn.

(6) At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neuʼn atal plentyn os ywʼr person hwnnw—

(a)   yn defnyddio, neuʼn bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y maeʼr plentyn yn ei gwrthsefyll, neu

(b)   yn cyfyngu ar ryddid symud y plentyn, pa un a ywʼr plentyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys drwy ddefnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.

 

 

 

 

 

 

 

 

·         Bydd polisi a gweithdrefnau ar waith ynghylch defnydd priodol o reoli ac atal. Bydd y rhain yn nodi:

 

o   y disgwyliad ar rieni maeth y bydd unrhyw ddefnydd o ddulliau rheoli neu atal yn adlewyrchu’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau cenedlaethol cyfredol;

o   y gofyniad i gael hyfforddiant ar ddulliau rheoli neu atal, cyn defnyddio unrhyw ddulliau o’r fath.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod rhieni maeth yn mynd ati mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol i hybu ymddygiad plentyn. Bydd unrhyw ddull o hybu ymddygiad plentyn yn gyson â

 

o   diwallu anghenion gofal a chymorth y plentyn;

o    llesiant aelodau eraill o aelwyd y rhiant maeth y   gallai'r lleoliad a wneir effeithio arnynt.

 

·         Bydd staff a rheini maeth yn ymwybodol o'r polisi a’r gweithdrefnau ynghylch defnyddio rheoli ac atal yn briodol, a byddant yn eu deall.

 

·         Bydd rhieni maeth yn cael hyfforddiant ar gymorth ymddygiad sy'n berthnasol i'w rôl er mwyn sicrhau mai dim ond yn rhagweithiol a phan fydd hynny'n gwbl angenrheidiol y defnyddir unrhyw ddulliau rheoli neu atal, a hynny’n unol â'r canllawiau cenedlaethol cyfredol.

·         Bydd staff a rhieni maeth yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y polisi a’r gweithdrefnau, yn unol ag unrhyw newidiadau i ganllawiau a deddfwriaeth.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod ganddynt drefniadau sy’n eu galluogi i wirio, pryd bynnag y bydd rhieni maeth yn defnyddio dulliau rheoli neu atal:

 

o   nad yw ond yn cael ei defnyddio fel rhan o ddull rhagweithiol i roi cymorth ar gyfer ymddygiad;

o   ei bod yn gymesur â’r risg o niwed ac â difrifoldeb y niwed hwnnw i'r plentyn sy'n cael gofal a chymorth neu i rywun arall;

o   yn ystyried yr asesiad o anghenion y plentyn;

o   yn dilyn y ddeddfwriaeth a'r canllawiau cyfredol.

 

·         Bydd darparwyr yn monitro ac adolygu'n rheolaidd yr ymagwedd at ddulliau atal a chyfyngu a'r ffordd y caiff y dulliau hyn eu defnyddio gan rieni maeth, gan adrodd am hyn o fewn eu fframwaith llywodraethu. Mae hyn yn cynnwys:

 

o   manylion y digwyddiad a’r camau gweithredu a gymerwyd mewn ymateb iddo;

o   digon o fanylion i alluogi cynnal dadansoddiad ac adolygiad o anghenion gofal a chymorth y plentyn yn ogystal â llywio adolygiad ehangach o’r gwasanaeth a ddarperir.

 

·         Bydd gan ddarparwyr drefniadau ar waith i sicrhau bod achosion o reoli ac atal yn cael eu cofnodi a’u hysbysu gan rieni maeth o fewn 24 awr.

 

·         Bydd cofnodion ar ddefnyddio dulliau rheoli ac atal yn cael eu hadolygu, a bydd adrodd yn eu cylch o fewn yr adolygiad o ansawdd gofal.

 

Rheoliad 22

 

Gwaharddiad ar ddefnyddio cosb gorfforol

22.  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau nad yw rhieni maeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn.

 

 

Rheoliad 23

 

Cod  

Amddifadu o ryddid

23. Ni chaniateir amddifadu plentyn o’i ryddid at ddiben cael gofal a chymorth heb awdurdod cyfreithlon.

 

 

·         Bydd gan ddarparwyr drefniadau i sicrhau bod rhieni maeth yn ymwybodol bod rhaid iddynt weithredu bob amser yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol a'r canllawiau perthnasol ar ddiogelu rhag amddifadu o ryddid.

                                   

·      Bydd staff a, lle bo'n briodol, rhieni maeth, yn cael eu hyfforddi ar adegau priodol ac yn unol ag unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth a chanllawiau ar ddiogelu rhag amddifadu o ryddid.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rheoliad 24

 

Cod  

Polisi a gweithdrefnau ar fwlio

24. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi yn ei le ar atal bwlio a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio.

 

 

·         Bydd polisi atal bwlio ar waith.

 

·         Bydd y polisi’n cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth a’r canllawiau cenedlaethol cyfredol.

 

·         Bydd y polisi yn cynnwys rolau unigol a chyfrifoldebau staff ac eraill sy'n gweithio i'r gwasanaeth, a chyfrifoldebau rhieni maeth, o ran nodi, derbyn a rhoi gwybod am honiadau o fwlio. Bydd hyn yn cynnwys cyfarwyddiadau i'r staff am y camau i’w cymryd a'r mecanweithiau ar gyfer atgyfeirio i bartneriaid ac asiantaethau perthnasol.

 

 

 

Rheoliad 25

 

Cod  

Gweithdrefnau pan yw plentyn yn absennol heb ganiatâd

25. Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod gweithdrefn i’w dilyn pan yw unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth gan y darparwr yn absennol heb ganiatâd.

 

 

 

·         Bydd gweithdrefn ar waith ar gyfer pan fydd plentyn yn absennol heb ganiatâd.

 

·         Bydd y weithdrefn yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth a’r canllawiau cenedlaethol cyfredol.

 

·         Bydd y weithdrefn yn cynnwys rolau unigol a chyfrifoldebau staff a phobl eraill sy'n gweithio yn y gwasanaeth maethu, a’r rhieni maeth, o ran rhoi gwybod pan fydd plentyn yn absennol heb ganiatâd. Bydd hyn yn cynnwys cyfarwyddiadau i'r staff am y camau i’w cymryd a'r mecanweithiau ar gyfer atgyfeirio i bartneriaid ac asiantaethau perthnasol.

 

 


1.5 Gofynion ar ddarparwyr awdurdodau lleol i sicrhau mynediad at wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau eraill (Rhan 6 o’r Rheoliadau)

 

Bwriad Rhan 6 o'r Rheoliadau yw sicrhau, pan gaiff plentyn ei leoli gyda rhieni maeth, ei fod yn cael ei gefnogi i gael gofal iechyd a gwasanaethau eraill er mwyn sicrhau a chynnal iechyd, datblygiad a llesiant da.  

 

 

Rheoliad 26

 

Cod  

 

Mynediad i wasanaethau iechyd

26.—(1)  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn hybu iechyd a datblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

(2) Yn benodol, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth—

(a) yn cofrestru pob plentyn ag ymarferydd cyffredinol,

(b) yn darparu i bob plentyn fynediad i unrhyw gyngor, triniaeth a gwasanaethau meddygol, deintyddol, optegol, nyrsio, seicolegol a seiciatrig y mae eu hangen ar y plentyn,

(c)   yn darparu i bob plentyn unrhyw gymorth, cymhorthion a chyfarpar unigol y mae eu hangen ar y plentyn o ganlyniad i unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol sydd ganddo, a

(d)   yn darparu i bob plentyn ganllawiau, cymorth a chyngor ynghylch iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd syʼn briodol i anghenion a dymuniadauʼr plentyn.

(3) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle mewn perthynas â rhoi meddyginiaethau gan rieni maeth.

 

·         Bydd gan ddarparwyr drefniadau i sicrhau bod iechyd a llesiant plant a leolir gyda rhieni maeth yn cael ei hybu. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

 

o   helpu rhieni maeth i sicrhau bod plentyn yn iach ac yn egnïol;

o   cefnogi rhieni maeth i sicrhau bod plentyn yn cael ei gofrestru â meddyg teulu;

o   darparu gwybodaeth feddygol gyfredol i’r rhieni maeth a’u helpu i sicrhau bod plentyn yn cael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol eraill neu wasanaethau arbenigol eraill yn ôl y gofyn, mewn modd amserol;

o   lle bo hynny’n briodol, helpu rhieni maeth i sicrhau bod plentyn yn cael yr archwiliadau synhwyraidd perthnasol ac yn cael cymorth i gael mynediad at adolygiadau;

o   cefnogi rhieni maeth i sicrhau bod unrhyw gymhorthion, cymhorthion clyw, sbectol, etc y mae ar blentyn eu hangen yn cael eu caffael a'u cynnal yn briodol er mwyn cael eu defnyddio'n effeithiol;

o   helpu rhieni maeth i wneud yn siŵr bod plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â hybu iechyd, lle bo hynny’n briodol;

o   helpu rhieni maeth i adnabod anghenion emosiynol plant ac ymateb yn gadarnhaol i’r anghenion hynny, yn enwedig pan fydd y plentyn yn wynebu anhawster, er enghraifft os yw’n teimlo’n unig, yn drallodus, yn mynd drwy gyfnod pontio neu brofedigaeth, neu'n teimlo'n bryderus, yn isel neu'n dioddef o fathau eraill o salwch meddwl.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod rhieni maeth yn cadw cofnodion yn ymwneud ag ymgynghoriadau proffesiynol (gan gynnwys, lle bo modd, unrhyw ganlyniadau a ddeilliodd ohonynt) a hefyd bod gohebiaeth berthnasol, os yw ar gael, yn cael ei chynnal fel bod cofnod iechyd cyfredol a chynhwysfawr ar gael ar gyfer y plentyn.

 

·         Bydd polisi a gweithdrefn ar waith ar weinyddu meddyginiaethau gan rieni maeth, yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol cyfredol. Bydd hyn yn cynnwys rôl a chyfrifoldebau’r rhiant maeth, gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol a (lle bo’n briodol) yr awdurdod ardal o ran helpu’r plentyn i gael meddyginiaeth ac i’w chymryd.

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod  rhieni maeth yn gwybod am y polisi a'r weithdrefn ar weinyddu meddyginiaethau ac yn eu deall.

 

 

 

 

 

 

 

 


Rheoliad 27

 

Cod  

 

Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden

27.—(1)  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cyrhaeddiad addysgol plant sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth yn cael ei hybu.

(2) Yn benodol, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

(a)  sefydlu gweithdrefn ar gyfer monitro cyrhaeddiad addysgol, cynnydd a phresenoldeb yn yr ysgol plant sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth,

(b)   mewn perthynas â phlant oedran ysgol sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth, sicrhau bod rhieni maeth yn hybu presenoldeb rheolaidd y plant yn yr ysgol aʼu cyfranogiad mewn gweithgareddau ysgol, ac

(c)   darparu i rieni maeth unrhyw wybodaeth a chynhorthwy, gan gynnwys cyfarpar, syʼn angenrheidiol i ddiwallu anghenion addysgol plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

(3) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn hybu diddordebau hamdden plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy ac yn eu cefnogi i chwarae ac ymroi i weithgareddau adloniadol sy’n briodol i’w hoedran ac i gymryd rhan ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau(1).[3]).

(4) Pan fo unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyrraedd yr oedran pan na foʼn ofynnol iddo gael addysg lawn-amser orfodol mwyach, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gynorthwyo i wneud trefniadau a wneir ar gyfer y plentyn mewn cysylltiad âʼi addysg, ei hyfforddiant aʼi gyflogaeth, a rhoi effaith iʼr trefniadau hynny.

 

·                Bydd gan ddarparwyr drefniadau  i sicrhau bod cyrhaeddiad addysgol a gweithgarwch hamdden plant a leolir gyda rhieni maeth yn cael eu hybu, yn unol â chynllun gofal a chymorth / cynllun llwybr y plentyn, gan gynnwys y cynllun addysg personol. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

 

o   helpu rhieni maeth i fod yn rhan o'r gwaith o asesu, cynllunio ac adolygu anghenion addysgol plentyn, gan gynnwys unrhyw anghenion dysgu ychwanegol, gan gyfrannu yn ôl yr angen at unrhyw gynllun addysg personol;

o   cefnogi’r rhiant maeth i ddeall ei rôl o ran ymgysyllgu ag ysgol y plentyn (neu leoliad addysgol arall);

o   helpu rhieni maeth i sicrhau bod plentyn yn cymryd rhan yn llawn mewn addysg;

o   helpu rhieni maeth i gyflawni potensial plentyn a gwneud pethau sydd o bwys i'r plentyn ac sy'n ei wneud yn hapus. Gall hyn gynnwys eu helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, datblygu a chynnal diddordebau, ymuno â gweithgareddau yn y gymuned a gwirfoddoli.

 

·         Lle bo’n berthnasol, bydd gan ddarparwyr drefniadau i fonitro cyrhaeddiad addysgol a chynnydd pentyn a leolir gyda rhiant maeth, ynghyd â’i bresenoldeb yn yr ysgol.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod trefniadau ar waith i helpu’r plant i baratoi at annibyniaeth a bod yn oedolyn. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i’r canlynol:

 

o   cefnogi rhieni maeth i helpu plant) i ddatblygu’r sgiliau, y cymhwysedd a’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer byw fel oedolion;

o   rhoi hyfforddiant a chymorth i rieni maeth i’w galluogi i roi cymorth ac arweiniad effeithiol i berson ifanc sy’n paratoi i symud i le byw annibynnol neu led-annibynnol;

o   sicrhau bod pob person ifanc sy’n paratoi i symud i le byw annibynnol neu led-annibynnol yn cael ei annog i gymryd rhan weithredol yn y broses o ddatblygu eu Cynllun Llwybr a’i roi ar waith.

 

 


 

1.6 Staffio (Rhan 7 o’r Rheoliadau) 

 

Bwriad Rhan 7 o'r Rheoliadau yw sicrhau bod plant a rhieni maeth yn cael eu cefnogi gan staff sydd â’r wybodaeth, y cymhwysedd, y sgiliau a'r cymwysterau angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd sy’n cyflawni canlyniadau personol y plentyn.

 

Bydd gan ddarparwyr gwasanaethau y canlynol ar waith:

 

·           polisïau a gweithdrefnau ar gyfer recriwtio

·           arferion trwyadl ar gyfer recriwtio ac archwilio cefndir staff

·           strwythur rheoli a staffio sy'n ategu'r datganiad o ddiben, sy'n berthnasol i anghenion plant ac sy’n galluogi rhieni maeth i ddarparu gofal a chymorth i blant

·           strwythur rheoli, systemau a phrosesau ar gyfer sefydlu staff, eu goruchwylio'n barhaus, eu hyfforddi a'u datblygu.


 

Rheoliad 28

 

Cod  

Staffio - gofynion cyffredinol

28. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd âʼr cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd aʼr profiad addas yn cael eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—

(a)  iʼr datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,

(b)   i anghenion gofal a chymorth plant,

(c)   iʼr angen i gefnogi plant i gyflawni eu canlyniadau personol,

(d)   iʼr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant, ac

(e)   i ofynion y Rheoliadau hyn.

 

 

 

 

 

·         Bydd gan ddarparwyr ddull mesuradwy, systematig amlwg ar waith i bennu nifer y staff a'r ystod o sgiliau/cymwysterau sy'n ofynnol i gefnogi anghenion plant ac i gefnogi rhieni maeth a darpar rieni maeth Mae hyn yn ystyried, ond heb fod yn gyfyngedig i'r meysydd canlynol:

 

o   y datganiad o ddiben;

o   anghenion gofal a chymorth y plentyn;

o   cefnogi a goruchwylio rhieni maeth i roi gofal a chymorth i blentyn.

 

·         Bydd lefelau staffio a'r gymysgedd sgiliau'n cael eu hadolygu'n barhaus ac yn cael eu haddasu i ymateb i'r newid yn anghenion y gwasanaeth.

 

·         Bydd trefniadau ar waith i ymateb i salwch neu absenoldeb staff er mwyn sicrhau bod plant a rhieni maeth yn cael y gefnogaeth briodol.

 

·         Os bydd argyfwng, bydd gweithdrefnau i'w dilyn sy'n sicrhau bod digon o staff addas ar gael i ymateb i’r argyfwng ac i wneud gwaith arferol y gwasanaeth maethu.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rheoliad 29

 

Cod

 

Addasrwydd staff

29.—(1)  Ni chaiff y darparwr awdurdod lleol—

(a) cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny,

(b) caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny, nac

(c)  caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi â phlant syʼn cael gofal a chymorth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—

(a)  bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da,

(b)   bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd aʼr profiad syʼn angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae iʼw wneud,

(c)   bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawniʼn briodol y tasgau syʼn rhan annatod oʼi rôl,

(d)   bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un oʼr materion sy’n ofynnol o dan baragraffau 1 i 9 o Atodlen 3, a bod yr wybodaeth hon neuʼr ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i Weinidogion Cymru edrych arni, ac

(e)   pan foʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr awdurdod lleol i reoliʼr gwasanaeth, o 1 Ebrill 2022, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol(1) â Gofal Cymdeithasol Cymru.

(3) Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr awdurdod lleol at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid ywʼr gofyniad hwn yn gymwys os ywʼr person syʼn gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaruʼr GDG).

(4) Pan fo person syʼn cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.

(5) Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.

(6) Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad âʼr person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddiʼr dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach oʼr fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.

(7) Os nad yw person syʼn gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor oʼr gofynion ym mharagraff (2), rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

(a)  cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i ddiogelu plant, a

(b)   pan foʼn briodol, hysbysu—

                     (i)  Gofal Cymdeithasol Cymru,

                    (ii) y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

 

·         Bydd gan ddarparwyr systemau trwyadl ar waith ar gyfer dethol ac archwilio cefndir pob ymgeisydd  er mwyn penderfynu a ddylid eu penodi’n aelod staff neu wirfoddolwr ai peidio. Mae hyn yn cynnwys yr wybodaeth sydd yn Atodlen 3 o'r Rheoliadau. Mae hyn hefyd yn cynnwys sicrhau cywirdeb geirdaon a chofnodion cyflogaeth flaenorol.

 

·         Os defnyddir staff asiantaeth, bydd darparwyr yn sicrhau bod yr un archwiliadau'n cael eu cynnal ar eu cyfer ag a gynhelir ar gyfer staff a gyflogir yn barhaol, a bydd ganddynt dystiolaeth i ddangos bod yr archwiliadau hyn wedi'u gwneud. Gallai hyn gynnwys cadarnhad a rhestrau gwirio a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, os ydynt yn ddigon dibynadwy a chadarn.

 

·         Rhoddir ystyriaeth gadarnhaol i gynnwys plant a rhieni maeth wrth recriwtio staff newydd.

 

·         Bydd gan ddarparwyr broses ar waith i sicrhau bod staff wedi cofrestru'n briodol â rheoleiddiwr proffesiynol a'r cofrestriad hwnnw'n un cyfredol lle bydd gofyn neu, lle bo hynny'n berthnasol, eu bod ar gofrestr wirfoddol achrededig.

·         Wedi ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael, bydd darparwyr yn penderfynu a oes gan yr unigolyn y sgiliau, y cymwysterau a'r cymeriad da angenrheidiol i gyflawni'r rôl y mae'n cael ei gyflogi/ei roi ar waith i'w chyflawni.

 

·         Os na fydd staff (gan gynnwys gwirfoddolwyr) bellach yn cyflawni'r meini prawf addasrwydd a nodir yn rheoliad 29(2), bydd y darparwyr yn cymryd camau priodol yn ddi-oed. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys:

 

o   hyfforddi a mentora;

o   darparu hyfforddiant a goruchwyliaeth ychwanegol;

o   defnyddio gweithdrefnau disgyblu.

 

·         Bydd darparwyr gwasanaethau yn sicrhau bod staff yn cydymffurfio â gofynion eu codau ymarfer proffesiynol a, lle bo hynny’n briodol, bydd y darparwyr yn gwneud atgyfeiriadau i’r cyrff proffesiynol perthnasol pan godir cwestiwn am addasrwydd staff i ymarfer.

 

·         Os bydd pryderon bod aelod staff wedi cam-drin unigolyn neu wedi achosi sefyllfa lle mae unigolyn yn wynebu risg o gael ei gam-drin, bydd y darparwr gwasanaeth yn rhoi gwybod yn ddi-oed i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac unrhyw gorff cofrestru proffesiynol perthnasol.

 

 

 

Rheoliad 30

 

Cod  

 

 

Cefnogi a datblygu staff

30.—(1)  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

(2) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw berson syʼn gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—

(a)  yn cael cyfnod sefydlu syʼn briodol iʼw rôl,

(b)   yn cael ei wneud yn ymwybodol oʼi gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill,

(c)   yn cael ei oruchwylio aʼi arfarnuʼn briodol,

(d)   yn cael hyfforddiant craidd syʼn briodol iʼr gwaith sydd iʼw wneud ganddo,

(e)   yn cael hyfforddiant arbenigol fel y boʼn briodol, ac

(f)     yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach syʼn briodol iʼr gwaith y maeʼn ei wneud.

(3) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn rheolwr yn cael ei gefnogi i gynnal unrhyw gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.

 

 

 

 

 

·      Bydd darparwyr yn sicrhau bod ganddynt raglen sefydlu sy’n galluogi pob aelod newydd o staff  (gan gynnwys gwirfoddolwyr) i fod yn gymwys yn eu rolau a’u hymarfer ac yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i lesiant y plant sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

 

·      Bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn cwblhau'r rhaglen sefydlu berthnasol sy’n ofynnol gan Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn yr amserlenni sydd wedi’u diffinio yn ogystal ag unrhyw raglenni sefydlu  sy’n benodol i’r gwasanaeth.

 

·      Bydd staff yn gallu cael gafael ar gopïau o unrhyw godau ymarfer proffesiynol perthnasol a chanllawiau ymarfer, gan gynnwys unrhyw rhai a gyhoeddwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd y safonau sydd yn y codau a'r canllawiau ymarfer hyn yn cael eu hyrwyddo'n frwd.

 

·      Pan ddefnyddir staff asiantaeth, byddant yn cael cyflwyniad i’r gwasanaeth sy'n cynnwys y canlynol ond heb ei gyfyngu iddynt:

 

o   y datganiad o ddiben;

o   polisïau a gweithdrefnau craidd;

o   trefniadau rheoli a goruchwylio.

 

·         Bydd staff yn cael eu goruchwylio yn eu rôl i i’w helpu i bwyso a mesur eu hymarfer a sicrhau eu bod yn cynnal safon eu cymhwysedd proffesiynol. Bydd hyn yn cynnwys adborth am eu perfformiad gan blant sy’n defnyddio’r gwasanaeth a chan rieni maeth.  

 

·         Bydd y staff yn cwrdd i gael goruchwyliaeth un i un gyda’u rheolwr llinell neu swyddog cyfatebol, neu aelod uwch o’r staff, bob chwarter blwyddyn o leiaf.

 

·         Bydd pob aelod o staff yn cael ei arfarnu bob blwyddyn a bydd hynny'n gyfle i roi adborth am eu perfformiad a nodi meysydd lle bydd angen hyfforddiant a datblygu er mwyn eu cynorthwyo yn eu rôl.

 

·         Bydd anghenion aelodau unigol o’r staff o ran hyfforddiant, dysgu a datblygiad ychwanegol yn cael eu nodi o fewn eu mis cyntaf yn y swydd ac yn cael eu hadolygu drwy’r broses oruchwylio ac arfarnu.

 

·         Bydd staff yn cael cymorth i ddilyn hyfforddiant, i ddysgu ac i ddatblygu i'w galluogi i gyflawni gofynion eu rôl a diwallu anghenion plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth, a rhieni maeth.

 

·         Bydd darparwyr yn dadansoddi'r anghenion hyfforddi bob blwyddyn (neu’n amlach os bydd angen) er mwyn sicrhau bod gan staff y sgiliau a'r cymhwysedd perthnasol i ddiwallu anghenion unigolion yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

·         Bydd darparwyr yn cadw cofnod ysgrifenedig o'r holl hyfforddiant a goruchwyliaeth y mae ac y bydd yr aelodau staff wedi ymgymryd ag ef.

 

·         Bydd darparwyr yn cynorthwyo'r holl staff i gwblhau, lle bo hynny’n briodol:

 

o   hyfforddiant craidd;

o   cymwysterau angenrheidiol a fyddai'n eu galluogi i barhau i gyflawni eu rôl;

o   hyfforddiant a gweithgarwch gofynnol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus;

o   hyfforddiant arall y tybir ei fod yn briodol gan y darparwr;

o   hyfforddiant craidd ac arbenigol sydd wedi’i nodi gan Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer eu rôl.

 

 



Rheoliad 31

 

Cod  

 

Gwybodaeth ar gyfer staff

31.—(1)  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person syʼn gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth aʼr ffordd y caiff ei ddarparu.

(2) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod trefniadau addas yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, y maeʼn ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o Ddeddf 2016.

 

·         Bydd darparwyr yn casglu gwybodaeth ac yn ei darparu ar gyfer y staff yn unol â'r datganiad o ddiben. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y materion canlynol:

 

o    ethos a diwylliant y gwasanaeth;

o    yr ymddygiad a ddisgwylir gan staff a phobl eraill sy'n gweithio yn y gwasanaeth;

o    rolau a chyfrifoldebau staff a phobl eraill sy'n gweithio yn y gwasanaeth;

o    polisïau a gweithdrefnau'r gwasanaeth;

o    y gofynion o ran cadw cofnodion;

o    cyfrinachedd a gofynion diogelu data;

o    gweithdrefnau disgyblu;

o    trefniadau ar gyfer rhoi gwybod am bryderon;

o    trefniadau ar gyfer pobl yn gweithio ar eu pen eu hunain.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod staff yn gallu cael gafael ar y copïau diweddaraf o'r holl bolisïau, gweithdrefnau a chodau ymarfer, a'u bod yn eu deall. Bydd darparwyr yn sicrhau bod staff wedi darllen y rhain yn ystod y cyfnod sefydlu ac yn profi dealltwriaeth y staff yn barhaus drwy eu goruchwylio ac adolygu eu perfformiad.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod staff yn cyflawni eu dyletswyddau'n unol â gofynion y polisïau a'r gweithdrefnau.

 

·         Mae'r holl staff yn cael disgrifiad swydd ysgrifenedig sy'n datgan yn glir eu cyfrifoldebau, y dyletswyddau y disgwylir iddynt eu cyflawni ar y pryd a'u llinell atebolrwydd.

 

·         Cynhelir cyfarfodydd staff rheolaidd (o leiaf chwech bob blwyddyn), bydd y materion a drafodir yn cael eu cofnodi a chymerir camau priodol yn eu sgil. 

 

 

 

Rheoliad 32

 

Cod  

 

Gweithdrefnau disgyblu

32.—(1)  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle aʼi gweithredu.

(2) Rhaid iʼr weithdrefn ddisgyblu gynnwys—

(a)  darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogeion er budd diogelwch neu lesiant plant syʼn cael gofal a chymorth gan y gwasanaeth, a

(b)   darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.

(3) At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—

(a)  un o swyddogion Gweinidogion Cymru,

(b)   y darparwr awdurdod lleol,

(c)   swyddog i’r awdurdod lleol,

(d)   yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog iʼr Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu

(e)   swyddog heddlu,

yn ôl y digwydd.

 

 

 

 

·         Bydd gan ddarparwyr weithdrefn ddisgyblu, yn unol â chyfreithiau cyflogaeth cyfredol, i ymdrin â pherfformiad ac ymddygiad cyflogeion. Mae hyn yn cynnwys:

 

o    gwybodaeth ynghylch yr hyn sy’n ymddygiad derbyniol ac yn ymddygiad annerbyniol a pha gamau a gymerir os bydd pryderon am ymddygiad staff;

o    y trefniadau i aelod staff gael ei atal o’i waith (neu ei drosglwyddo i wneud dyletswyddau eraill) tra cynhelir ymchwiliad i unrhyw honiadau o gamymddwyn difrifol, gan gynnwys honiadau o gam-drin neu bryderon difrifol ynglŷn â diogelwch neu lesiant plant.  

 

·         Os bydd y darparwr yn cymryd camau disgyblu yn erbyn  gweithiwr a bod y gweithiwr yn gadael cyn i’r broses ddisgyblu ddod i ben, bydd y darparwr yn ystyried a ddylid cyfeirio’r achos at yr heddlu, y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, Gofal Cymdeithasol Cymru neu unrhyw gorff proffesiynol arall.  

 

·         Os bydd cwestiwn ynghylch addasrwydd gwirfoddolwr i ymarfer, oherwydd unrhyw gamymddwyn honedig a/neu ddiffyg gallu sy’n peri pryder, bydd y darparwr yn cymryd camau priodol ac amserol. Gallai hyn gynnwys:

 

o   darparu hyfforddiant a goruchwyliaeth ychwanegol;

o   dod â’r trefniant gwirfoddoli i ben;

o   cyfeirio’r mater at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu at yr heddlu, lle bo hynny’n briodol.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod y staff yn ymwybodol o'r gweithdrefnau disgyblu a’r gweithdrefnau cwyno, ac yn eu deall.

 

·         Bydd adroddiad ysgrifenedig am unrhyw ymchwiliadau disgyblu a'r camau a gymerir yn cael ei gadw ar ffeil y gweithiwr yn unol â’r ddeddfwriaeth ar gyflogaeth a diogelu data.

 

 

 

 


Rheoliad 33

 

Cyfyngiadau ar gyflogaeth

33.—(1)   Ni chaiff y darparwr awdurdod lleol gyflogi i weithio, at ddibenion y gwasanaeth maethu, mewn swydd y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, berson sydd—

(a)  yn rhiant maeth sydd wedi ei gymeradwyo gan y gwasanaeth maethu, neu

(b)   yn aelod o aelwyd rhiant maeth oʼr fath.

(2) Maeʼr paragraff hwn yn gymwys i unrhyw swydd reoli, swydd gwaith cymdeithasol neu swydd broffesiynol arall, oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud yn achlysurol, fel gwirfoddolwr, neu am ddim mwy na 5 awr mewn unrhyw wythnos, yn achos swydd nad yw’n swydd reoli nac yn swydd gwaith cymdeithasol.

 

 

 


 

1.7 Mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar (Rhan 8 o’r Rheoliadau)

 

Bwriad Rhan 8 o'r Rheoliadau yw nodi’r gofynion ar ddarparwyr i sicrhau bod gofal a chymorth plentyn yn ael ei ddarparu mewn lleoliad ac amgylchedd sydd â’r cyfleusterau a, lle bo hynny’n briodol, y cyfarpar sy’n eu helpu i gyflawni ei ganlyniadau personol.

 

Rheoliad 34

 

Cod  

Mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar - darparwyr awdurdodau lleol

34.  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau aʼr cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gweithreduʼr gwasanaeth yn addas, gan roi sylw iʼr datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

 

 

·         Bydd lleoliad, cynllun a maint yr eiddo, ynghyd ag unrhyw gyfleusterau a chyfarpar a ddefnyddir, yn addas ar gyfer y gwasanaeth fel y mae wedi’i ddisgrifio yn y datganiad o ddiben.

 

 

Rheoliad 35

 

Cod  

Digonolrwydd cyfleusterau

35. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod gan y mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer gweithreduʼr gwasanaeth gyfleusterau digonol ar gyfer—

(a)   goruchwylio staff, a

(b)   storio cofnodion yn ddiogel.

 

 

 

 

·         Bydd gan ddarparwyr le addas yn y safle, megis ystafell gyfarfod a rennir, i sicrhau preifatrwydd ar gyfer goruchwylio staff.

 

·         Bydd cofnodion yn cael eu cadw'n ddiogel yn unol â gofynion deddfwriaethol.

 

 

 

Rheoliad 36

 

Cod  

Mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar - rhieni maeth

36.—(1)  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau aʼr cyfarpar a ddefnyddir gan rieni maeth ar gyfer darparu gofal a chymorth i blant—

(a)  yn addas ac yn ddiogel i’r diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio ato,

(b)   yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel,

(c)   yn cael eu cynnal aʼu cadwʼn briodol, a

(d)   yn cael eu cadwʼn lân yn unol â safon syʼn briodol i’r diben y maent yn cael eu defnyddio ato.

(2) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn cael eu hyfforddiʼn briodol ynghylch sut i weithredu unrhyw gyfarpar y maent yn ei ddefnyddio wrth ddarparu gofal a chymorth i blentyn.

 

 

 

 

·         Bydd gan ddarparwyr drefniadau i fonitro'r safle, y cyfleusterau a'r offer a ddefnyddir gan rieni maeth i ddarparu gofal a chymorth i blentyn sydd wedi'i leoli gyda nhw.

 

 


 

1.8 Gofynion eraill ar ddarparwyr awdurdodau lleol (Rhan 9 o’r Rheoliadau)

 

Bwriad Rhan 9 o'r Rheoliadau yw sicrhau bod plant yn cael eu gwarchod gan wasanaeth sy'n gweithio'n rhagweithiol i gefnogi a diogelu eu hawliau a’u llesiant drwy:

 

·       gadw cofnodion cywir sydd ar gael iddynt hwy a'u cynrychiolwyr

·       sicrhau gwasanaeth agored a thryloyw drwy hybu polisi a gweithdrefn gwyno hawdd i bobl eu defnyddio

·       cefnogi staff i leisio pryderon am y gwasanaeth drwy weithdrefnau chwythu’r chwiban

·       medru dangos eu bod yn dysgu yn sgil pryderon a chwynion er mwyn gwella'r gwasanaeth.

 

 

 

Rheoliad 37

 

Cod  

 

Cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu

37.—(1)  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gynnal y cofnodion a bennir yn Atodlen 2 am 15 mlynedd.

(2) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

(a)  sicrhau bod y cofnodion a bennir yn Atodlen 2 yn gywir ac yn gyfredol,

(b)   cadw’r cofnodion yn ddiogel,

(c)   gwneud trefniadau addas er mwyn iʼr cofnodion barhau i gael eu cadwʼn ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau,

(d)   rhoiʼr cofnodion ar gael i Weinidogion Cymru ar gais,

(e)   sicrhau bod plant syʼn defnyddioʼr gwasanaeth—

                     (i)  yn cael eu gwneud yn ymwybodol oʼu hawliau i gael 

 mynediad iʼw cofnodion, a

                    (ii) yn cael mynediad iʼw cofnodion fel y mae’r gyfraith yn 

 ei ganiatáu.

 

 

 

 

 

·         Bydd polisi a gweithdrefnau ar waith ar gyfer rheoli cofnodion. Mae hyn yn cynnwys:

 

o   Y cofnodion sydd i’w cadw gan y darparwr ynglŷn â’r plant a’r rhieni maeth sy’n defnyddio’r gwasanaeth;

o   y cofnodion dyddiol sydd i’w cadw gan y rhieni maeth ar gyfer unrhyw blentyn a leolir gyda hwy;

o   y  cyfnodau amser y mae angen i’r darparwr a’r rhieni maeth gadw cofnodion ar eu cyfer.

 

·         Bydd y staff yn ymwybodol o'r polisi a’r gweithdrefnau ac yn deall yn glir y gweithdrefnau ar gyfer cofnodi a rheoli cofnodion. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant ym maes diogelu gwybodaeth a'r camau i'w cymryd os oes unrhyw beth wedi amharu ar ddiogelwch gwybodaeth bersonol.

 

·         Bydd rhieni maeth yn cael gwybod am y polisi a'r weithdrefn ar gyfer cofnodi a rheoli cofnodion ac yn cael eu cefnogi i gofnodi'r digwyddiadau bywyd arwyddocaol i'r plentyn. Bydd rhieni maeth yn deall pa wybodaeth y mae angen iddynt ei throsglwyddo i'r darparwr am y plentyn.

 

·         Bydd darparwyr yn cadw'r holl gofnodion sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn unigolion a chynnal y gwasanaeth yn effeithlon yn unol â'r hyn a bennir yn Atodlen 2 i’r  Rheoliadau.

·         Bydd pob cofnod yn cael ei gadw'n ddiogel, yn cael ei ddiweddaru a bydd trefn dda arno. Byddant yn cael eu paratoi, eu cynnal a'u defnyddio yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data a gofynion statudol eraill ac yn cael eu cadw am y cyfnod amser gofynnol fel y nodir yn rheoliad 37(1).

 

·         Bydd cofnodion yn cael eu cadw'n ddiogel, gan gynnwys cofnodion electronig o dan warchodaeth cyfrinair.

 

·         Bydd plant, rhieni maeth a staff yn cael gweld unrhyw gofnodion a'r wybodaeth a gedwir amdanynt gan y darparwr yn unol â gofynion cyfreithiol cyfredol.

 

 


 

Rheoliad 38

 

Cod  

Gwrthdaro buddiannau

38. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion o wrthdaro buddiannau posibl.

 

 

·         Bydd darparwyr yn cynnal systemau priodol ac yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau y nodir ac yr ymdrinnir ag achosion gwirioneddol neu ymddangosiadol o wrthdaro buddiannau ac y cofnodir hwy mewn ffordd agored.

 

 

Rheoliad 39

 

Cod

 

Polisi a gweithdrefnau cwyno

39.—(1) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol âʼr polisi hwnnw.

(2) Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr awdurdod lleol gan neu ar ran plant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr ynghylch—

(a)   y darparwr,

(b)   rhieni maeth, ac

(c)   unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(3) Rhaid i’r polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir i’r darparwr awdurdod lleol gan neu ar ran unrhyw blant eraill y gall y lleoliad a wneir effeithio arnynt ynghylch—

(a)   y darparwr, a

(b)   unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(4) Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr awdurdod lleol gan rieni maeth ynghylch—

(a)  y darparwr, a

(b)   unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(5) Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr awdurdod lleol gan rieni unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr ynghylch—

(a)   y darparwr, a

(b)   unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(6) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion gan gynnwys trefniadau ar gyfer—

(a)   nodi cwynion ac ymchwilio iddynt,

(b)   sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad, ac

(c)   cadw cofnodion syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).

(7) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion ac unrhyw gamau gweithredu dilynol a gymerir i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(8) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

(a)   dadansoddi gwybodaeth syʼn ymwneud â chwynion a phryderon, a

(b)    gan roi sylw iʼr dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd iʼw gwella.

 

 

 

 

 

 

·         Bydd gan y darparwyr bolisi cwynion hygyrch sy’n cynnwys, lle bo hynny’n briodol, gam datrys anffurfiol ac sy’n esbonio:

 

o   pwy all wneud cwyn ac mewn perthynas â beth;

o   at bwy y dylid mynd i drafod pryder/cwyn;

o   sut y gellir rhoi cymorth i blant, rhieni maeth a rhieni biolegol i wneud cwyn;

o   gwybodaeth ynghylch cael gafael ar eiriolaeth annibynnnol, os yw ar gael;

o   sut yr ymdrinnir â chwynion;

o   camau ac amserlenni’r broses

 

·         Bydd y polisi mewn fformat hawdd ei ddarllen, wedi'i hysbysebu’n dda, ar gael yn hwylus ac yn hygyrch i blant a rhieni maeth, eu teuluoedd, y staff ac eraill sy’n gweithio i’r gwasanaeth.

 

·         Bydd gwybodaeth ynghylch ffyrdd eraill o gwyno wedi’i chynnwys er mwyn helpu’r rhai sy’n cwyno os nad ydynt yn fodlon â chamau gweithredu’r darparwr. Er enghraifft, gwybodaeth am weithdrefn gwynion yr awdurdod lleoli, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru.

·         Bydd unigolion yn gallu cwyno yn ysgrifenedig neu ar lafar wrth y staff.

 

·         Bydd staff yn ymwybodol o'r polisi cwyno ac yn deall sut mae ymateb yn briodol i gwynion.

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod unrhyw sylwadau neu gwynion yn cael eu cadarnhau, yn cael sylw'n ddi-oed a bod yr achwynydd yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau, oni bai fod y cwynion wedi’u gwneud yn ddienw.

·         Bydd adroddiad ysgrifenedig yn cael ei ddarparu i’r achwynydd yn nodi canlyniad y gŵyn ac unrhyw gamau i’w cymryd.

 

·         Dylid cael cydsyniad (lle bo hynny’n ymarferol) i ddatgelu manylion am gŵyn, lle bo angen, er mwyn galluogi cynnal ymhwiliad effeithiol. Dylid sicrhau cyfrinachedd drwy gydol y broses gwyno oni fydd rhwymedigaethau proffesiynol neu statudol sy'n golygu na fyddai hyn yn bosibl, ee rhai’n ymwneud â diogelu.

 

·         Ni fydd plant, eu rhieni na’u rhieni maeth yn wynebu erledigaeth, gwahaniaethu nac unrhyw anfantais arall oherwydd iddynt gyflwyno sylwadau neu gwynion.

 

·         Bydd systemau ar waith i sicrhau bod pob cwyn yn cael ei hystyried yn unol â’r amserlenni sydd wedi’u nodi ym mholisi cwynion y darparwr gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

 

o   cynnal adolygiad i bennu lefel yr ymchwiliad a'r camau y bydd gofyn eu cymryd ar unwaith, gan gynnwys a oes gofyn cyfeirio'r achos at yr awdurdodau priodol er mwyn cynnal ymchwiliad. Gallai hyn gynnwys Arolygiaeth Gofal Cymru neu dimau diogelu'r awdurdod lleol;

o   os gwelir bod meysydd lle mae angen gwella neu lle mae'r gwasanaeth yn methu, gweithredu ar y rhain ar unwaith.

 

·      Bydd gan staff a phobl eraill sy'n ymwneud ag ymchwilio i gwynion y lefel gywir o wybodaeth a sgiliau i wneud hyn. Byddant yn deall proses gwyno'r darparwr a byddant yn gyfarwydd ag unrhyw ganllawiau cyfredol cysylltiedig.

 

·      Bydd cofnodion o gwynion yn cael eu cadw a'u monitro i nodi tueddiadau a meysydd risg lle y gall fod angen cymryd camau rhagataliol.

 

·      Adroddir ar y camau a gymerir i ymateb i gwynion, fel rhan o'r trefniadau llywodraethu ar gyfer y gwasanaeth.

 

 


 

Rheoliad 40

 

Cod  

 

Chwythuʼr chwiban

40.—(1) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod pob person syʼn gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am y gwasanaeth.

(2) Rhaid iʼr trefniadau hyn gynnwys—

(a) cael polisi chwythuʼr chwiban yn ei le a gweithredu yn unol âʼr polisi hwnnw, a

(b) sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl syʼn gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon oʼr fath.

(3) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y trefniadau syʼn ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithreduʼn effeithiol.

(4) Pan godir pryder, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau—

(a)  yr ymchwilir iʼr pryder,

(b)   y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad, ac

(c)   y cedwir cofnod syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).

 

 

 

 

 

 

 

 

·         Bydd polisi chwythu'r chwiban hygyrch ar waith, yn cynnwys:

 

o   y drefn ar gyfer lleisio pryder;

o   y trefniadau diogelu ar gyfer staff, rhieni maeth neu ddarpar rieni maeth sy'n codi pryder;

o   sut yr ymchwilir i bryderon.

 

·         Bydd staff yn gwybod sut mae lleisio pryderon ac wedi cael hyfforddiant ar hynny. Bydd mecanweithiau a chymorth ar gael i’w galluogi i wneud hyn.

 

·         Dylid cael cydsyniad (lle bo hynny’n ymarferol) i ddatgelu manylion am bryder, lle bo angen, er mwyn galluogi cynnal ymchwiliad effeithiol. Dylid sicrhau cyfrinachedd drwy gydol y broses ymchwilio oni fydd rhwymedigaethau proffesiynol neu statudol sy'n golygu na fyddai hyn yn bosibl, ee rhai’n ymwneud â diogelu.

 

·         Ni fydd unigolion yn wynebu erledigaeth, gwahaniaethu nac unrhyw anfantais arall yn sgil mynegi eu pryderon.

 

·         Gweithredir yn brydlon ar unrhyw honiadau ac achosion o gam-drin, yn unol â pholisi a gweithdrefnau diogelu’r darparwr a’r trefniadau diogelu lleol.

 

·         Bydd systemau ar waith i wneud yn siŵr bod pob pryder yn cael ei ystyried yn ddi-oed, yn unol â pholisi a gweithdrefnau diogelu’r darparwr. Mae hyn yn cynnwys:

 

o   cynnal adolygiad i benderfynu ar lefel yr ymchwiliad a’r camau gweithredu y mae angen eu cymryd ar unwaith, gan gynnwys a oes gofyn cyfeirio’r achos at yr awdurdodau priodol i ymchwilio iddo. (Gallai hyn olygu gofyn am gyngor gan Arolygiaeth Gofal Cymru neu gan staff diogelu yn yr awdurdod lleol;

o   lle gwelir bod lle i wella, neu fethiant mewn gwasanaethau, gweithredir ar y rhain yn ddi-oed;

o   sicrhau bod staff ac eraill sy’n ymwneud ag ymchwilio i bryderon yn meddu ar y lefel gywir o wybodaeth a sgiliau;

o   sicrhau bod staff ac eraill sy’n rhan o’r ymchwiliad yn deall y prosesau’n ymwneud â diogelu ac ymateb i bryderon.

 

·         Cedwir cofnodion o bryderon a chânt eu monitro i nodi tueddiadau a meysydd risg lle y gallai fod angen cymryd camau. Adroddir ar y camau a gymerir wrth ymateb i chwythu'r chwiban yn fel rhan o’r trefniadau llywodraethu.

 

 


 

1.9 Cefnogi a goruchwylio rhieni maeth (Rhan 10 o’r Rheoliadau)

 

Bwriad Rhan 10 o’r Rheoliadau yw sicrhau bod rhieni maeth yn cael yr wybodaeth, yr hyfforddiant, y cyngor a’r gefnogaeth i’w galluogi i ddiwallu anghenion gofal a chymorth y plant a leolir gyda hwy, a bod y rhieni maeth yn cael eu goruchwylio’n briodol.

 

 

Rheoliad 41

 

Cod  

 

Cymorth, hyfforddiant a gwybodaeth ar gyfer rhieni maeth

41.—(1) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod gan rieni maeth yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i ddarparu gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn.

(2) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn cael unrhyw hyfforddiant, cyngor a chymorth, gan gynnwys cymorth y tu allan i oriau swyddfa, y maeʼn ymddangos eu bod yn angenrheidiol er budd plant sydd wedi eu lleoli gydaʼr rhieni maeth ac iʼw galluogi i ddarparu gofal a chymorth i blant yn unol â chynllun gofal a chymorth pob plentyn.

(3) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod darpar rieni maeth yn cael unrhyw hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.

(4) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol fonitro ac adolyguʼr wybodaeth, yr hyfforddiant, y cyngor aʼr cymorth a ddarperir i rieni maeth a darpar rieni maeth a gwneud unrhyw welliannau syʼn angenrheidiol.

 

·           Bydd darparwyr yn sicrhau bod rhieni maeth yn cael y cymorth, yr hyfforddiant angenrheidiol i'w galluogi i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw blentyn y maent yn ei faethu yn unol â chynllun gofal a chymorth  / cynllun llwybr y plentyn.

 

·           Bydd darparwyr yn sicrhau bod unrhyw hyfforddiant (sefydlu, parhau neu fel arall) a gaiff ei ddarparu i rieni maeth yn cyd-fynd â’r canllawiau cenedlaethol.

 

·           Bydd darparwyr yn sicrhau bod rhieni maeth yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt os gwneir honiad / cwyn yn eu herbyn, ee cymorth gan Fosterline Cymru.

 

·           Bydd gan ddarparwyr gwasanethau drefniadau i gefnogi rhieni maeth y tu allan i oriau swyddfa arferol, a bydd rhieni maeth yn gyfarwydd â’r trefniadau hyn.

 

·           Bydd darparwyr yn darparu hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor yn ôl yr angen i ddarpar rieni maeth, neu byddant yn trefnu bod y ddarpariaeth ar gael.

 

·           Bydd gan ddarparwyr drefniadau i  fonitro ac adolygu'r cymorth a'r cyngor, yr hyfforddiant a'r wybodaeth a roddir i rieni maeth a darpar rieni maeth. Bydd hyn yn bwydo i'r Adolygiad Ansawdd.

 

 

 

 

Rheoliad 42

 

Cod  

 

Polisïau a gweithdrefnau i rieni maeth

42. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn gyfarwydd âʼr polisïau aʼr gweithdrefnau a sefydlir o dan reoliadau 20, 21, 24, 25, 26, 39 a 45 ac yn gweithredu yn unol â hwy.

 

 

 

·           Bydd gan ddarparwyr drefniadau ar waith i sicrhau bod rhieni maeth yn gyfarwydd â'r polisïau a'r gweithdrefnau a nodir yn y Rheoliadau.

 

 


Rheoliad 43

 

Cod  

 

Goruchwylio

43. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn cael eu goruchwylioʼn briodol.

 

 

·         Bydd gan ddarparwyr drefniadau ar waith i oruchwylio'r rheini maeth a rhoi cyngor a chymorth yn ôl yr angen.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod pwrpas clir i unrhyw gyfarfodydd goruchwylio gyda rheini maeth, a bod cofnodion yn cael eu cadw.

 

 

 


Rheoliad 44

 

Cod  

Perthnasoedd gwaith effeithiol

44. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

(a)  cynnal perthnasoedd proffesiynol da â rhieni maeth, a

(b)   annog a chynorthwyo rhieni maeth i gynnal perthnasoedd personol da â phlant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

 

·           Bydd darparwyr yn helpu rhieni maeth i ddatblygu a chynnal perthynas gadarnhaol â'r plentyn sydd wedi'i leoli gyda nhw.

 

 

Rheoliad 45

 

Cod  

 

Cefnogi plant i reoli eu harian

45.—(1) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle i alluogi rhieni maeth i ddarparu cymorth a chynhorthwy i blant o ran sut i reoli eu harian.

(2) Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau y maeʼn ofynnol gan y rheoliad hwn iddynt fod yn eu lle nodiʼr camau sydd iʼw cymryd gan rieni maeth i alluogi a chefnogi plant i reoli eu harian eu hunain ac i amddiffyn plant rhag camdriniaeth ariannol(1)[4].

(3) Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sicrhau bod y darparwr awdurdod lleol yn goruchwylio ac yn monitro’n ddigonol y cynilion a wneir gan rieni maeth ar ran plant.

(4) Pan foʼr rhieni maeth yn dal arian plentyn at unrhyw ddiben, rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau syʼn ofynnol gan y rheoliad hwn ddarparu bod yr arian yn cael ei ddal mewn cyfrif yn enwʼr plentyn neu mewn cyfrif syʼn ei gwneud yn bosibl darnodi arian y plentyn yn glir.

(5) Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sicrhau bod rhieni maeth yn trosglwyddo’r holl gofnodion o gynilion (gan gynnwys gwariant o gynilion) i’r darparwr awdurdod lleol pan ddaw lleoliad plentyn y mae’r cofnodion yn ymwneud ag ef i ben.

 

·         Bydd polisi a gweithdrefnau ar waith  nodi trefniadau ar gyfer cefnogi rhieni maeth i helpu’r plant i reoli eu harian. Mae hyn yn cynnwys:

 

o   sut y mae plant yn cael eu hannog a'u cefnogi i drin eu harian eu hunain;

o   sut y rhoddir cymorth i blant, gan gynnwys agor a rheoli cyfrifon banc unigol, cyllidebu a gwneud penderfyniadau am wario;

o   sut y rhoddir cymorth i blant i ddeall a rheoli unrhyw beryglon cysylltiedig;

o   sut y rhoddir cymorth i blant ddeall a chael gafael ar unrhyw lwfansau ariannol y gallai fod ganddynt hawl iddynt, lle bo hynny’n berthnasol;

o   sut y bydd cofnodion a derbynebau’n ymwneud â chynilion plentyn yn cael eu trin pan fydd lleoliad yn dod i ben.

 

·         Os na fydd plant yn gallu rheoli eu harian eu hunain, bydd gan y darparwr gwasanaeth drefniadau i sicrhau bod y rhieni maeth yn cadw cofnodion a derbynebau ar gyfer unrhyw drafodion ariannol a wneir ar eu rhan.

 

·         Bydd darparwyr yn sicrhau bod trefniadau ar waith i oruchwylio a monitro cynilion plant.

 

 


 

Pennod 2:  Dyletswyddau rheolwyr awdurdodau lleol (Rhan 11 o’r Rheoliadau)

 

Y rheolwr yn yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth ac am roi sicrwydd i’r darparwr awdurdod lleol ac eraill (yn ôl y gofyn) bod y gwasanaeth yn ddiogel, yn cael ei redeg yn dda a’i fod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau. Mae’n gyfrifol am sicrhau:

·         Bod gan y gwasanaeth adnoddau a chymorth digonol

·         Bod pryderon arwyddocaol am y gwasanaethau neu newidiadu i’r ffordd mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg yn cael eu hadrodd

·         Bod trefniadau ar waith ar gyfer ymgysylltu â phlant, rhieni, rhieni maeth a staff ynglŷn ag ansawdd y gwasanaeth a’r ffordd mae’n cael ei redeg

·         Bod systemau ar waith ar gyfer cofnodi cwynion a storio cofnodion

·         Bod adolygiad o ansawdd y gofal yn cael ei gynnal bob chwe mis ac adroddiad yn cael ei roi i’r darparwr

·         Bod polisi chwythu’r chwiban y daparwr yn cael ei ddilyn a bod pobl yn cael cefnogaeth i godi pryderon.

 

 

Rheoliad 46

 

Cod  

 

Goruchwylio digonolrwydd adnoddau

46.—(1) Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol adrodd i’r darparwr awdurdod lleol am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.

(2) Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.

 

 

 

·         Bydd gan y rheolwr yn sicrhau bod systemau a phrosesau ar waith i’w alluogi i lunio’r adroddiadau chwarterol hyn.

 

 

 

 

Rheoliad 47

 

Cod  

 

Adroddiadau eraill i’r darparwr awdurdod lleol

47. Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr awdurdod lleol—

(a)   am unrhyw bryderon ynghylch darparu’r gwasanaeth,

(b)   am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu, ac

(c)   am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

 

 

 

·         Bydd y rheolwr yn sicrhau bod systemau a phrosesau ar waith i gasglu a darparu gwybodaeth am y gwasanaeth ac am unrhyw feysydd y mae angen, o bosibl, eu goruchwylio’n agosach neu eu hystyried a/neu eu gwella. Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt:

 

o   trosiant staff;

o   lefelau salwch staff;

o   cwynion;

o   materion diogelu;

o   adroddiadau arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru;

o   canlyniadau arolygiadau a/neu adroddiadau gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r gwasanaeth tân.

 

·         Bydd y rheolwr yn sicrhau bod trefniadau addas ar waith fel eu bod yn gallu rhoi gwybod ar unwaith i uwch-swyddogion / aelodau etholedig os yw’r gwasanaeth:

 

o   yn methu â chydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau;

o   yn methu â chyflawni neu roi sylw i faterion a godwyd mewn adroddiadau arolygu neu os na all wneud hynny;

o   yn darparu’r gwasanaeth mewn modd sy’n groes i’r datganiad o ddiben.

 

              

 

 

 

 

 

 


Rheoliad 48

 

Cod  

 

Ymgysylltu â phlant ac eraill

48.—(1) Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—

(a)  unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr awdurdod lleol,

(b)   rhieni unrhyw blentyn o’r fath, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,

(c)   rhieni maeth, a

(d)   staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth,

ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.

(2) Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr awdurdod lleol er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

 

 

·         Bydd y rheolwr yn sicrhau bod trefniadau addas ar waith i’w alluogi i roi adborth ar bob agwedd ar y gwasanaeth a ddarperir. Bydd yn sicrhau bod y trefniadau hyn yn hygyrch a’u bod yn ystyried barn pob un o’r rheini a restrir o dan adrannau (a) i (d).

 

·         Bydd y rheolwr  yn sicrhau bod y dulliau a ddefnyddir i gysylltu â phlant sy’n defnyddio’r gwasanaeth maethu, ac i gael eu barn, yn briodol i’w hoed a lefel eu dealltwriaeth ac yn ystyried unrhyw nodwedd benodol neu angen o ran cyfathrebu.

 

·         Bydd gan y rheolwr berthynas gadarnhaol â phobl y tu allan i'r gwasanaeth, a bydd ar gael yn hwylus i’r bobl hynny. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol:

 

o   unrhyw riant i blentyn a leolir gyda’r darparwr;

o   rhieni maeth;

o   awdurdodau ardal (lle bo hynny’n briodol);

o   rheoleiddwyr;

o   cyrff proffesiynol.

 

 

 

 

 

 

 

 

Rheoliad 49

 

Cod  

 

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi cwynion

49. Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i gofnodi cwynion.

 

 

 

·         Bydd y rheolwr yn sicrhau bod trefniadau addas ar waith ar gyfer cofnodi'r materion a restrir yn rheoliadau 37 a 50.  

 

·         Bydd gan y rheolwr systemau a phrosesau ar waith i sicrhau bod unrhyw gofnodion yn glir a chywir ac yn cael eu cadw’n ddiogel.

 

 

 

Rheoliad 50

 

Cod  

 

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodion

50. Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle mewn perthynas â chadw cofnodion, sy’n cynnwys systemau ar gyfer sicrhau bod y cofnodion y mae rhaid iddynt gael eu cadw o dan reoliad 37 yn gywir ac yn gyflawn.

 

 

 

·         Os bydd y cofnodion yn cael eu storio’n electronig, byddant yn ddiogel a bydd gan y staff godau mynediad unigol sy'n creu trywydd archwilio clir a fydd yn dangos pwy sydd wedi cofnodi a diwygio unrhyw wybodaeth.

 

 

 

Rheoliad 51

 

Cod  

 

Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol

51. Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

 

 

·           Bydd y rheolwr yn sicrhau bod trefniadau addas ar waith i adolygu polisïau a gweithdrefnau yn unol â rheoliad 10, yn unol â'r Rheoliadau hyn.

 

·           Bydd y rheolwr yn sicrhau bod trefniadau addas ar waith fel bod staff a rhieni maeth yn gallu cael gafael ar y polisïau a'r gweithdrefnau i'w helpu i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'r plentyn sy’n defnyddio’r gwasanaeth, a'u bod yn gwybod am y polisïau a'r gweithdrefnau hynny ac yn eu deall.

 

 

 

Rheoliad 52

 

Cod  

 

Adolygiad o ansawdd y gofal

52.—(1) Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol roi trefniadau addas yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(2) Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i ansawdd y gofal a’r cymorth gael ei adolygu mor aml ag sy’n ofynnol ond o leiaf bob chwe mis.

 

 

·           Bydd gan y rheolwr drefniadau addas ar waith i asesu, monitro a gwella ansawdd a diogelwch y gwasanaeth maethu. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

 

o   casglu a dadansoddi'r adborth gan y rheini a restrir o dan reoliad 48(1);

o   materion a gwersi a ddysgwyd wrth ddadansoddi cwynion a materion diogelu;

o   patrymau a thueddiadau a nodwyd drwy ddadansoddi hysbysiadau, materion diogelu, pryderon a chwynion, chwythu'r chwiban;

o   canlyniad unrhyw adroddiadau arolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru;

o   archwiliadau o gyfrifon.

 

·                Bydd y rheolwr yn sicrhau bod y systemau a'r prosesau archwilio ar gyfer monitro’r gwasanaeth yn rhoi sicrwydd bod gwasanaeth o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu sy’n cyflawni’r canlyniadau gorau posibl i blant.

 

 

·                Bydd gan y rheolwr drefniadau addas i sicrhau bod y systemau a'r prosesau'n cael eu hadolygu'n barhaus i sicrhau eu bod yn galluogi'r rheolwr i weld ymhle y mae neu y gallai rhywbeth amharu ar ansawdd a/neu ddiogelwch gwasanaethau ac i alluogi ymateb prydlon priodol.

 

·                Bydd gan y rheolwr drefniadau addas i sicrhau bod pob adborth yn cael ei gydnabod a'i gofnodi ac yn derbyn ymateb fel y bo’n briodol.

 

·                Bydd gan y rheolwr drefniadau addas i sicrhau bod meysydd dysgu yn sgil cwynion, diogelu a chwythu’r chwiban yn cael eu rhannu gyda'r staff i wella'r gwasanaeth ac i annog arferion diogel a thosturiol ym maes gofal.

 

·                Bydd y rheolwr yn sicrhau bod meysydd dysgu yn cael eu dadansoddi a bod argymhellion yn cael eu gwneud i uwch-swyddogion / aelodau etholedig yr awdurdod lleoli ynghylch sut ac ymhle y gellir gwella ansawdd a diogelwch y gwasanaeth.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rheoliad 53

 

Cod  

Cymorth ar gyfer codi pryderon

53. Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr awdurdod lleol a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

 

 

 

 

·      Bydd y rheolwr yn sicrhau bod trefniadau addas ar waith ar gyfer y canlynol:

 

o   bod staff yn ymwybodol o'r polisi chwythu’r chwiban ac yn ei ddeall;

o   bod staff yn deall na fydd dim goddefgarwch i ofal gwael neu fethiant i ddiogelu llesiant plant;

o   bod staff yn cael euhannog a’u cefnogi i roi gwybod am faterion;

o   bod staff, gofalwyr maeth a phlant yn deall bod croeso ac anogaeth iddynt fynegi pryderon, ac na fydd hynny'n cael ei anwybyddu.

 

 



[1] Fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Gwasnaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2019

([2] Crëwyd swydd Comisiynydd Plant Cymru gan adran 72 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14).

[3] (1) Mae adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth arfer unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau, roi sylw dyledus i ofynion Rhan 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno gan benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”). Mae erthygl 31 o Ran 1 o’r Confensiwn yn cydnabod hawl plentyn i chwarae.

[4] Gweler adran 197(1) o Ddeddf 2014 am ddiffiniad o “gamdriniaeth ariannol”.